Sam Rowlands MS for North Wales is urging constituents to take advantage of a 2-for-1 offer entry to Wales’ historic landmarks.
People travelling by train to Wales’ historic landmarks can get 2-for-1 entry thanks to a new partnership between Transport for Wales and Cadw.
Mr Rowlands, a Welsh Conservative member of the Welsh Parliament said:
As a keen supporter of tourism in North Wales I welcome any moves to help and encourage more people to visit our excellent attractions.
It is a great idea and will enable visitors who have a same day rail ticket to get two tickets for the price of one at Cadw paid sites, like Conwy and Caernarfon Castle in North Wales.
This is not only great for tourists but also for residents who can take advantage of this offer which is running until the end of May 2023.
James Price, Transport for Wales Chief Executive, said:
Wales has so many incredible places to visit and this offer is a perfect way to save money, while also travelling sustainably using public transport.
We’re delighted to be working with Cadw on this scheme and hope to see many people taking up the offer over the next year.
Gwilym Hughes, Head of Cadw, said:
As the Welsh Government’s historic environment service, Cadw is committed to the sustainability of Wales’s historical landscape, for the benefit of future generations.
Naturally, this commitment goes hand in hand with Wales’s wider sustainability targets — so we couldn’t be happier to be supporting Transport for Wales with this green tourism initiative.
We hope that the offer will enable Welsh residents and visitors alike to choose a greener, public travel option when visiting our outstanding historic sites — this summer and beyond.
Sam Rowlands AS yn croesawu partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i fanteisio ar gynnig mynediad 2 am 1 i dirnodau hanesyddol Cymru.
Gall pobl sy’n teithio ar y trên i dirnodau hanesyddol Cymru gael mynediad 2 am 1 diolch i bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw.
Meddai Mr Rowlands, sy’n aelod o’r Senedd dros y Ceidwadwyr Cymreig:
Fel rhywun sy’n frwd iawn dros dwristiaeth yn y Gogledd, rwy’n croesawu unrhyw gamau i helpu ac annog mwy o bobl i ymweld â’n hatyniadau rhagorol.
Mae’n syniad gwych a bydd yn galluogi ymwelwyr sydd â thocyn trên un diwrnod i gael dau docyn am bris un ar safleoedd Cadw lle codir tâl am fynediad, fel Castell Conwy a Chastell Caernarfon yn y Gogledd.
Nid yn unig mae hyn yn fargen i dwristiaid ond hefyd i breswylwyr sy’n gallu manteisio ar y cynnig a fydd ar gael hyd ddiwedd Mai 2023.
Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
Mae gan Gymru gymaint o leoedd anhygoel i ymweld â nhw ac mae’r cynnig hwn yn ffordd berffaith o arbed arian, gan deithio’n gynaliadwy trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Cadw ar y cynllun hwn ac rydym yn gobeithio gweld llawer o bobl yn manteisio ar y cynnig y flwyddyn nesaf.
Meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
Fel gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cadw wedi ymrwymo i gynaliadwyedd tirwedd hanesyddol Cymru, er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Yn naturiol, mae’r ymrwymiad hwn yn mynd law yn llaw â thargedau cynaliadwyedd ehangach Cymru - felly rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru gyda’r fenter twristiaeth werdd hon.
Gobeithio y bydd y cynnig yn galluogi preswylwyr ac ymwelwyr â Chymru i ddewis opsiwn teithio cyhoeddus gwyrddach wrth ymweld â’n safleoedd hanesyddol anhygoel – yn ystod yr haf ac wedi hynny.