Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has welcomed pupils from Wrexham, to Cardiff.
During the visit, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, spoke briefly about his role as a member of the Senedd and took questions from his young visitors.
He said:
It was fantastic to welcome the pupils and staff from Ysgol Morgan Llwyd, Wrexham, and talk to them about what we do as members of the Welsh Parliament.
It was great to see them so enthusiastic about visiting the Senedd and they asked me a lot of challenging and insightful questions about local and national issues.
I think it is so important that children and young people learn more about politics and the Welsh Parliament, so I’d encourage other schools from Wrexham to come down and visit the Senedd!
Ysgol Morgan Llwyd is a Welsh medium secondary school located in the city of Wrexham which serves a wide catchment area with pupils coming from the town itself, the neighbouring villages and from the rural areas in Dyffryn Ceiriog.
The school is the only Welsh medium secondary school in the county and one of only two with a Sixth Form.
Sam Rowlands AS yn croesawu disgyblion o Ysgol Morgan Llwyd i’r Senedd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru wedi croesawu disgyblion o Wrecsam, i Gaerdydd.
Yn ystod yr ymweliad, siaradodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, am gyfnod byr am ei rôl fel aelod o'r Senedd ac ateb cwestiynau gan ei ymwelwyr ifanc.
Meddai:
Roedd hi’n wych cael croesawu'r disgyblion a'r staff o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a siarad â nhw am yr hyn rydyn ni'n ei wneud fel aelodau o’r Senedd.
Roedd hi'n wych eu gweld mor frwdfrydig am ymweld â'r Senedd ac yn gofyn llawer o gwestiynau heriol a chraff am faterion lleol a chenedlaethol.
Rwy'n meddwl ei bod hi mor bwysig bod plant a phobl ifanc yn dysgu mwy am wleidyddiaeth a’r Senedd, felly byddwn i'n annog ysgolion eraill o Wrecsam i ddod lawr ac i ymweld â’r Senedd!
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam sy'n gwasanaethu dalgylch eang gyda disgyblion yn dod o'r dref ei hun, y pentrefi cyfagos ac o'r ardaloedd gwledig yn Nyffryn Ceiriog.
Yr ysgol yw'r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir ac yn un o ddim ond dwy gyda Chweched Dosbarth.