Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to hear Wrexham’s refurbished markets will open next month.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism said:
I am really pleased to hear that the much needed revamp for Wrexham markets is near completion and the reopening will coincide with this years popular Victorian Christmas Market.
It is great that the launch will be at the same time as the city’s largest seasonal event which always attracts locals and visitors alike and a fantastic opportunity for local businesses and traders to take advantage of more people being in Wrexham.
The city, as we all know, has become a destination of choice for many visitors from all over the world and I am delighted to support this four day event to celebrate the reopening of the Butchers and the General Market.
After more than three decades since the last refurbishment, works on the Butchers Market, as well as the General Market are nearing completion on their much needed revamp. With some unexpected additional works having caused a delay, which isn’t uncommon in older buildings, the market will now officially open on November 28th.
This delay means the refurbished markets will now launch alongside Wrexham’s largest seasonal event, the Victorian Christmas Market, which has now been extended to a four-day market, with the addition of traditional wooden chalets.
To compliment this, the refurbished markets’ four-day launch will also have a Victorian theme, echoing the Butchers’ Market’s 1992 refurbishment launch.
The combined events of the refurbished markets four-day launch and the Victorian Christmas Market is expected to draw more foot traffic into the city, offering a vibrant atmosphere for locals and visitors alike, as well as increased opportunities for market traders and local businesses during the festive season.
For more information about the refurbished markets four-day launch, be sure to follow the new Wrexham Markets Facebook page – further updates and announcements to come.
Sam Rowlands AS yn croesawu ailagoriad marchnadoedd Wrecsam ar eu newydd wedd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wrth ei fodd o glywed y bydd marchnadoedd Wrecsam yn ailagor ar eu newydd wedd fis nesaf.
Meddai Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Rwy'n falch iawn o glywed bod y gwaith ailwampio mawr ei angen ar farchnadoedd Wrecsam bron yn barod ac y bydd yr ailagor yn cyd-fynd â'r Farchnad Nadolig Fictoraidd boblogaidd.
Mae'n wych clywed y bydd y lansiad yn cyd-fynd â digwyddiad tymhorol mwyaf y ddinas sydd bob amser yn denu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd – achlysur sy’n gyfle gwych i fusnesau a masnachwyr lleol fanteisio ar ddenu mwy o bobl i Wrecsam.
Mae'r ddinas, fel y gwyddom i gyd, wedi dod yn gyrchfan boblogaidd i bobl o bedwar ban byd ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r digwyddiad pedwar diwrnod hwn i ddathlu ailagor Marchnad y Cigyddion a'r Farchnad Gyffredinol.
Ar ôl mwy na thri degawd ers y gwaith adnewyddu diwethaf, mae gwaith ar Farchnad y Cigyddion, yn ogystal â'r Farchnad Gyffredinol bron â gorffen. Gyda rhywfaint o waith ychwanegol annisgwyl wedi achosi oedi, nad yw'n anghyffredin mewn adeiladau hŷn, bydd y farchnad nawr yn agor yn swyddogol ar 28 Tachwedd.
Mae'r oedi hwn yn golygu y bydd y marchnadoedd ar eu newydd wedd nawr yn lansio ar yr un pryd â digwyddiad tymhorol mwyaf Wrecsam, sef y Farchnad Nadolig Fictoraidd, sydd bellach yn ddigwyddiad pedwar diwrnod o hyd ac yn cynnwys cabanau pren traddodiadol.
Bydd gan lansiad y marchnadoedd thema Fictoraidd hefyd, gan adleisio’r ailwampio a gafwyd i Farchnad y Cigyddion ym 1992.
Disgwylir i lansiad y marchnadoedd ar eu newydd wedd a'r Farchnad Fictoraidd ddenu mwy o bobl leol ac ymwelwyr i'r ddinas, a fydd yn dod i fwynhau’r awyrgylch bywiog, a bydd cyfleoedd di-ri i fasnachwyr y farchnad a busnesau lleol yn ystod tymor yr ŵyl.
I gael rhagor o wybodaeth am lansiad pedwar diwrnod y marchnadoedd ar eu newydd wedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn tudalen Facebook newydd Marchnadoedd Wrecsam – rhagor o ddiweddariadau a chyhoeddiadau i ddod.