Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, praises a multi-agency strategy transforming a community in Denbighshire.
Mr Rowlands was commenting on Clear, Hold, Build, a new partnership initiative running in Rhyl.
He said:
I am delighted to hear that this new multi-agency strategy in Rhyl west ward is paying dividends and having positive results.
It really is great to see North Wales Police their partners and local residents working together to improve the area, helping to reduce crime and making it safer for everyone.
It is heartening to hear that this new strategy which was launched in April is working and well done to everyone involved.
Clear, Hold, Build is a multi-agency strategy to transform the community into a more prosperous area where people would love to live, work and visit and one less susceptible to being exploited by organised crime groups and County Lines.
Within North Wales, the initiative was launched in April this year in Rhyl West ward, one of the most deprived areas in the country, and is a three-phase initiative that uses a combination of targeted high-visibility police operations and covert policing tactics alongside activity and support from partners, and input from residents to protect communities and prevent organised crime groups from operating.
Now, data has been collated which shows #RenewRhyl has led to a 14% drop in recorded crime. Read more about Clear, Hold, Build here: www.northwales.police.uk/police-forces/north-wales-police/areas/about-us/about-us/clear-hold-build
Sam Rowlands AS yn croesawu canlyniadau menter partneriaeth newydd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn canmol strategaeth amlasiantaeth sy'n trawsnewid cymuned yn Sir Ddinbych.
Roedd Mr Rowlands yn siarad am Hel, Dal, Cryfhau, menter bartneriaeth newydd yn y Rhyl.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod y strategaeth amlasiantaeth newydd hon yn ward Gorllewin y Rhyl yn talu ar ei chanfed ac yn cael canlyniadau cadarnhaol.
Mae'n wych gweld Heddlu Gogledd Cymru, eu partneriaid a thrigolion lleol yn cydweithio i wella'r ardal, helpu i leihau troseddu a'i gwneud yn fwy diogel i bawb.
Mae'n galonogol clywed bod y strategaeth newydd hon a lansiwyd ym mis Ebrill yn gweithio a da iawn i bawb sy'n rhan ohoni.
Mae Hel, Dal, Cryfhau yn strategaeth amlasiantaeth i drawsnewid y gymuned yn ardal fwy ffyniannus lle byddai pobl wrth eu bodd yn byw, gweithio ac ymweld â hi ac yn llai agored i gael eu hecsbloetio gan grwpiau troseddau cyfundrefnol a Llinellau Cyffuriau.
Lansiwyd y fenter ym mis Ebrill eleni yn ward Gorllewin y Rhyl, un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, ac mae'n fenter tri cham sy'n defnyddio cyfuniad o weithrediadau heddlu amlwg wedi'u targedu a thactegau plismona cudd ochr yn ochr â gweithgarwch a chefnogaeth gan bartneriaid, a mewnbwn gan drigolion i amddiffyn cymunedau ac atal grwpiau troseddau cyfundrefnol rhag gweithredu.
Nawr, mae data wedi'i gasglu sy'n dangos bod #AdnewydduYRhyl wedi arwain at ostyngiad o 14% mewn troseddau a gofnodwyd. Darllenwch fwy am Hel, Dal, Cryfhau yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gogledd-cymru/ardaloedd/amdanom-ni/amdanom-ni/clear-hold-build/