Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to support a county show next week.
The Denbigh and Flint Show is back on Thursday August 18 after missing the past two years because of the pandemic.
Mr Rowlands, Welsh Conservative member of the Welsh Parliament, and a keen supporter of local farmers and the agricultural industry, is now calling on members of the public to back the event.
He said:
I am delighted to see the return of this popular annual show which is a very important part of the rural calendar and attracts thousands of people.
I am really looking forward to attending and especially experiencing the best of Wales as many of our Welsh farmers will be showcasing their products and showing their livestock.
This year the main attraction in the ring will be the Atkinson Action Horses, heart stopping stunt riders who for the past 20 years have been entertaining us in tv programmes such as Poldark and Peaky Blinders.
There is quite simply something for all ages whether you just want to browse the various stalls or watch a display. It truly is an agricultural extravaganza and well worth a visit.
The Denbighshire and Flint Show, which takes place on the Green near Denbigh, has something for everyone on the day from livestock and dog shows to show-jumping and vintage tractor displays.
Denbighshire County Council’s tourism and economic teams will also be there promoting the county’s attractions and scenic locations as a destination for people to come on day visits and return holidays.
The Countryside Services team will also be promoting their work in the Clwydian Range and Dee Valley of Outstanding Natural Beauty.
Sam Rowlands AS yn croesawu Sioe Dinbych a’r Fflint yn ôl yn 2022
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi sioe sirol yr wythnos nesaf.
Mae Sioe Dinbych a’r Fflint yn dychwelyd ddydd Iau Awst 18 ar ôl bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
Mae Mr Rowlands, aelod y Ceidwadwyr Cymreig o Senedd Cymru, ac sy'n gefnogwr brwd o ffermwyr lleol a'r diwydiant amaethyddol, yn galw ar aelodau'r cyhoedd i gefnogi'r digwyddiad.
Meddai:
Mae’n braf gweld y sioe flynyddol boblogaidd hon, sy'n rhan bwysig iawn o'r calendr gwledig ac yn denu miloedd o bobl, yn ei hôl.
Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fynychu a phrofi'r gorau o Gymru gan y bydd llawer o'n ffermwyr yn arddangos eu cynnyrch a'u hanifeiliaid da byw.
Y prif atyniad yn y cylch eleni fydd yr Atkinson Action Horses, marchogion anturus sydd wedi'n diddanu mewn cyfresi teledu fel Poldark a Peaky Blinders dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae rhywbeth at ddant pawb o bob oed yma, p'un ai'ch bod am grwydro o amgylch y stondinau amrywiol neu wylio’r arddangosiadau. Mae'n wledd i'r llygad ac yn ddiwrnod allan gwerth chweil.
Mae gan Sioe Dinbych a’r Fflint, a gynhelir ar y Grin ger Dinbych, rywbeth i bawb - o stoc da byw a sioeau cŵn i gystadlaethau neidio ceffylau ac arddangosfa hen dractors.
Bydd timau twristiaeth ac economaidd Cyngor Sir Ddinbych yno’n hyrwyddo atyniadau a lleoliadau hyfryd y sir fel cyrchfan i ymwelwyr dydd, gan eu hannog i ddychwelyd dro ar ôl tro.
Bydd y tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad hefyd yn hyrwyddo eu gwaith yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.