Sam Rowlands MS for North Wales is delighted two major events are returning to his region this year.
Mr Rowlands, chair of the Senedd’s cross party group on Tourism, said:
I am absolutely delighted to see the three day Llandudno Victorian Extravaganza is back at the end of the month and the popular Colwyn Bay Prom Xtra in early May. This is fantastic news and a much needed boost. Both should attract thousands of visitors.
I must also thank the many volunteers who work so hard every year to make these events successful.
The tourism industry in North Wales has had a torrid time of late with the pandemic causing major problems for businesses all over the region and it is good to see major events returning to the area.
This sector is so important for the region I represent as it employs around 40,000 people and contributes around £3.5 billion a year to the local economy.
Unfortunately the pressures from the Covid pandemic have not gone away and they are still there and I have repeatedly called for Welsh Government to do more to support tourism. As chair of the cross party group, I will continue to do so.
The Llandudno Extravaganza is Wales’s largest free to attend family fun event and takes place on the first May bank holiday weekend, taking over the main streets in the town for three days. With vintage attractions, entertainment and a fun fair in this popular seaside town.
It was established more than 30 years ago and was cancelled in 2020 and 2021 because of the pandemic but this year’s event is set to take place on Saturday April 30 and Monday and Tuesday May 1 and 2.
Prom Xtra 2022 is taking place along Colwyn Bay’s promenade on Saturday May 7 with lots of free activities to keep all the family entertained.
There will also be a funfair and lots of entertainment with many different stalls dotted around the site including exhibitions, food, jewellery and charities.
Sam Rowlands AS yn croesawu dychweliad Strafagansa Fictoraidd Llandudno a Prom Xtra Bae Colwyn
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn falch iawn bod dau ddigwyddiad pwysig yn dychwelyd i’w ranbarth eleni.
Meddai Mr Rowlands, cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Rwy’n falch dros ben gweld bod Strafagansa Fictoraidd tridiau Llandudno yn ôl ar ddiwedd y mis a Prom Xtra poblogaidd Bae Colwyn yn ôl ddechrau mis Mai. Dyma newyddion gwych a hwb mawr ei angen. Dylai’r naill a’r llall ddenu miloedd o ymwelwyr.
Mae’n rhaid i mi hefyd ddiolch i’r llu o wirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed bob blwyddyn i wneud y digwyddiadau hyn yn llwyddiannus.
Mae’r diwydiant twristiaeth yn y Gogledd wedi cael amser erchyll yn ddiweddar gyda’r pandemig yn achosi problemau difrifol i fusnesau ledled y rhanbarth a da yw gweld digwyddiadau pwysig yn dychwelyd i’r ardal.
Mae’r sector hwn mor bwysig i’r rhanbarth rwy’n ei gynrychioli gan ei fod yn cyflogi oddeutu 40,000 o bobl ac yn cyfrannu oddeutu £3.5 biliwn y flwyddyn at yr economi leol.
Yn anffodus, dydy’r pwysau yn sgil y pandemig Covid ddim wedi mynd i ffwrdd ac maen nhw yma o hyd ac rwyf wedi galw dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi twristiaeth. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, byddaf yn dal ati i wneud hynny.
Strafagansa Llandudno yw digwyddiad hwyl i’r teulu am ddim mwyaf Cymru ac fe’i cynhelir ar benwythnos gŵyl y banc cyntaf mis Mai, gyda’r prif strydoedd yn cael eu meddiannu am dridiau, gydag atyniadau ‘vintage’, adloniant a ffair yn y dref lan môr boblogaidd hon.
Fe’i sefydlwyd fwy na 30 mlynedd yn ôl ond bu’n rhaid ei ganslo rhwng 2020 a 2021 yn sgil y pandemig ond cynhelir digwyddiad eleni ddydd Sadwrn 30 Ebrill a dydd Llun a dydd Mawrth 1 a 2 Mai.
Cynhelir Prom Xtra 2022 ar brom Bae Colwyn ddydd Sadwrn 7 Mai gyda llawer o weithgareddau am ddim i ddiddanu’r teulu cyfan.
Bydd ffair a llond gwlad o adloniant, gyda llwyth o stondinau ar y safle, gan gynnwys arddangosiadau, bwyd, gemwaith ac elusennau.