Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to celebrate Wales’ special day in Wrexham.
Mr Rowlands, a keen supporter of celebrating Wales’ Patron Saint day, is urging schools, organisations and individuals to get involved in marking St David’s Day on March 1.
He said:
I am a great believer in supporting ways to mark this very special day and delighted to hear about Wrexham’s St David’s Day parade. It is a wonderful way to bring everyone together to celebrate this major event in Wales’ calendar.
Whether you actually take part in the parade or just turn up to support this exciting and popular event in the city it certainly is going to be a great way to celebrate this very special day and highlight our Welsh cutlure.
Wrexham continues to grow in stature as a destination of choice and it is an exciting time for the city and North Wales.
Wrexham County Borough Council and Menter Iaith Fflint a Wrecsam are inviting everyone from across the county to join in the fun on Friday March 1.
The parade will assemble outside the Guildhall at 12.45pm before starting at 1.00pm, under the leadership of Band Cambria, making its way through the town and ending at Queen’s Square.
For the first time this year will also see the celebrations continuing at Tŷ Pawb at 4pm with live entertainment from Welsh artists Megan Lee and Meinir Gwilym, Welsh produce stalls and a family craft session.
Anyone interested in getting involved in the parade should contact Maiwenn Berry, Menter Iaith Fflint a Wrecsam on 01352 744 040 or email [email protected]
Sam Rowlands AS yn croesawu dathliad arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i ddathlu diwrnod arbennig Cymru yn Wrecsam.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o ddathlu Diwrnod Nawddsant Cymru, yn annog ysgolion, sefydliadau ac unigolion i gymryd rhan i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.
Meddai:
Dwi’n credu'n gryf mewn cefnogi ffyrdd o nodi'r diwrnod arbennig iawn hwn ac wrth fy modd yn clywed am orymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam. Mae'n ffordd wych o ddod â phawb ynghyd i ddathlu'r digwyddiad pwysig hwn ar galendr Cymru.
P'un a ydych chi'n cymryd rhan yn yr orymdaith neu'n dod i gefnogi'r digwyddiad cyffrous a phoblogaidd hwn yn y ddinas, mae'n sicr yn ffordd wych o ddathlu'r diwrnod arbennig hwn a thynnu sylw at ein diwylliant Cymreig.
Mae Wrecsam yn parhau i dyfu mewn statws fel cyrchfan o ddewis ac mae'n gyfnod cyffrous i'r ddinas ac i’r Gogledd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn gwahodd pawb o bob rhan o'r sir i ymuno yn yr hwyl ddydd Gwener 1 Mawrth.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull y tu allan i Neuadd y Ddinas am 12.45pm cyn dechrau am 1.00pm, dan arweiniad Band Cambria, gan wneud ei ffordd drwy'r dref a gorffen yn Sgwâr y Frenhines.
Am y tro cyntaf eleni hefyd bydd y dathliadau'n parhau yn Nhŷ Pawb am 4pm gydag adloniant byw gan yr artistiaid Cymreig Megan Lee a Meinir Gwilym, stondinau cynnyrch Cymreig a sesiwn grefft i'r teulu.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr orymdaith gysylltu â Maiwenn Berry, Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio [email protected]