Sam Rowlands MS for North Wales is urging those who do not get paid for caring for someone to attend a focus group meeting this Friday.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and a member of the Welsh Parliament is calling on unpaid carers to call and have their say about the services available to them at the town’s new Wellbeing Hub in Crown Buildings this Friday, September 9.
He said:
I welcome any moves to help unpaid carers who are the unsung heroes and step in to help and receive little or no support.
They save the NHS and taxpayers billions of pounds a year by providing this important care but I remain concerned that the services unpaid carers rely on have still not been prioritised.
I am pleased to see a special focus group being set up to discover what carers think about services for those who do not get paid for caring for someone and urge people to make sure they have their say.
The event is being organised by the North East Wales Carers Information Service, NEWCIS, who are commissioned to provide a service for unpaid carers by Wrexham County Borough Council.
They provide timely information, one to one support, respite, financial support, training, social events, counselling and more. For more information about NEWCIS visit their website.
The Unpaid Carers Focus Group is meeting at Wrexham’s Wellbeing Hub, Crown Buildings, on Friday September 9 from 11am – 3pm. To book call 01978 423114 or email [email protected].
Sam Rowlands AS yn croesawu fforwm arbennig ar gyfer gofalwyr di-dâl yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn annog y rhai nad ydynt yn cael eu talu am ofalu am rywun i fynychu cyfarfod grŵp ffocws ddydd Gwener.
Mae Mr Rowlands, aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig a Senedd Cymru, yn galw ar ofalwyr di-dâl i alw i mewn a dweud eu dweud am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn Hwb Lles newydd y dref yn Adeiladau’r Goron ddydd Gwener, 9 Medi.
Meddai:
Rwy’n croesawu unrhyw gamau i helpu gofalwyr di-dâl. Nhw yw’r arwyr di-glod sy’n camu i’r adwy ac yn helpu heb lawer o gefnogaeth os o gwbl.
Maen nhw’n arbed biliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r GIG a threthdalwyr drwy ddarparu’r gofal pwysig hwn ond rwy’n bryderus o hyd nad yw’r gwasanaethau y mae gofalwyr di-dâl yn dibynnu arnynt wedi’u blaenoriaethu o hyd.
Rwy’n falch o weld grŵp ffocws yn cael ei sefydlu er mwyn dysgu beth yw barn gofalwyr am wasanaethau i’r rhai nad ydynt yn cael eu talu am ofalu am rywun ac rwy’n annog pobl i ofalu eu bod yn cael dweud eu dweud.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, NEWCIS, sy’n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Maent yn darparu gwybodaeth amserol, cymorth un i un, seibiant, cymorth ariannol, hyfforddiant, digwyddiadau cymdeithasol, cwnsela a mwy. Am ragor o wybodaeth am NEWCIS, ewch i’w gwefan.
Mae’r Grŵp Ffocws Gofalwyr Di-dâl yn cyfarfod yn Hwb Lles Wrecsam, Adeiladau’r Goron, ddydd Gwener 9 Medi rhwng 11am a 3pm. I gadw’ch lle, ffoniwch 01978 423114 neu e-bostiwch [email protected].