Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see a national business tour choosing to stop in Wrexham as one of their calls.
The iconic Small Business Saturday UK Tour, which leads up to Small Business Saturday on December 2, is back again this November and the city of Wrexham has been chosen as a venue for one of 23 different towns and cities across the UK.
Mr Rowlands, is a great supporter of small businesses and said:
I am a great fan of this national initiative which aims to highlight local businesses across the UK and Wales and ultimately encourages more people to shop small on Saturday December 2.
I have always been a great supporter of Small Business Saturday which inspires more and more people to support local business and buy locally sourced food and other products from their community.
I am delighted to see the tour calling at Wrexham and urge local businesses to make sure they take advantage of this and welcome them to the city.
Once again supported by BT Skills for Tomorrow, ‘The Tour’ will call at twenty three different towns and cities across the UK throughout November, visiting small businesses and shining a light on their contribution to the UK economy and local communities.
It will also offer a jampacked free daily programme of online events - including workshops, webinars, mentoring and inspiring entrepreneurial stories - open to all small businesses.
Starting in Inverness on Monday October 30, ‘The Tour’ will travel across the UK for five weeks and will call at Wrexham, on Friday November 10 between 10am-2pm.
Small Business Saturday UK is a grassroots, non-political, non-commercial campaign, which highlights small business success and encourages consumers to ‘shop local’ and support small businesses in their communities.
Now in its 11th year in the UK, the campaign has grown significantly year on year encouraging people to shop small.
The day itself takes place this year on Saturday December 2 but the initiative aims to have a lasting impact on small businesses.
On Small Business Saturday customers are urged to go out and support all types of small businesses, online, in offices and stores with many hosting events and offering discounts.
Sam Rowlands AS yn croesawu dewis Wrecsam fel stop ar Daith Sadwrn Busnesau Bach
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros y Gogledd, yn falch iawn o weld taith fusnes ar gyfer y DU i gyd yn galw yn Wrecsam ar ei thaith.
Mae taith eiconic Small Business Saturday UK Tour, sy'n cyrraedd penllanw at Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr, yn ôl eto fis Tachwedd eleni ac mae dinas Wrecsam wedi'i dewis fel un o 23 o drefi a dinasoedd gwahanol ledled y DU.
Mae Mr Rowlands, yn cefnogi busnesau bach i’r carn a dywedodd:
Dwi'n gefnogwr brwd o'r fenter genedlaethol hon sy'n ceisio tynnu sylw at fusnesau lleol ledled y DU a Chymru ac sy’n annog mwy o bobl i ddefnyddio siopau bach ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr yn y pen draw.
Dwi wedi cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn frwd erioed, diwrnod sy'n ysbrydoli mwy a mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a phrynu bwyd o ffynonellau lleol a chynhyrchion eraill o'u cymuned.
Mae'n braf gweld y daith yn galw yn Wrecsam ac rwy'n annog busnesau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar hyn ac yn eu croesawu i'r ddinas.
Gyda chefnogaeth BT Skills for Tomorrow unwaith eto, bydd 'The Tour' yn galw mewn 23 o drefi a dinasoedd gwahanol ledled y DU gydol mis Tachwedd, gan ymweld â busnesau bach a thynnu sylw at eu cyfraniad at gymunedau lleol ac economi'r DU.
Bydd yn cynnig rhaglen lawn dop o ddigwyddiadau ar-lein bob dydd hefyd - gan gynnwys gweithdai, gweminarau, mentora a straeon entrepreneuraidd ysbrydoledig - sy'n agored i bob busnes bach.
Gan ddechrau yn Inverness ddydd Llun 30 Hydref, bydd 'The Tour' yn teithio ar hyd a lled y DU am bum wythnos ac yn galw yn Wrecsam, ddydd Gwener 10 Tachwedd rhwng 10am a 2pm.
Mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU yn ymgyrch llawr gwlad, anwleidyddol, anfasnachol, sy'n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i ‘siopa'n lleol’ a chefnogi busnesau bach eu bröydd.
Bellach yn ei 11eg flwyddyn yn y DU, mae'r ymgyrch wedi tyfu'n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn ac yn annog pobl i siopa'n fach.
Cynhelir y diwrnod ei hun eleni ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, ond nod y fenter yw cael effaith barhaol ar fusnesau bach.
Ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i fynd allan i gefnogi pob math o fusnesau bach, ar-lein, mewn swyddfeydd a siopau gyda llawer yn cynnal digwyddiadau ac yn cynnig gostyngiadau.