Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed concern over a council’s plan to introduce more 20mph speed limits. This follows the shocking news that the Labour Welsh Government had provided English councils with almost £200,000 of Welsh taxpayers money to impose 20mph speed limits over the border.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the implementation of the policy in Wales said:
Once again, we’ve seen that Labour are committed to making 20mph the default speed limit and waging a war on road users.
First Labour used their majority in the Welsh Parliament to reduce the default speed limit in Wales. Then Labour Ministers in the Welsh Government offered hand outs to their Labour Party colleagues running Cheshire West and Chester Council to reduce speed limits there.
And now we’re seeing Labour councillors, backed by the Greens and Liberal Democrats, are foisting this bonkers idea on road users in the Wirral. Once again it will affect people trying to go about their daily lives.
It is clear that the Labour Party across the UK will exploit any opportunity to push their pet projects, like the default 20mph speed limit.
It has been an unmitigated disaster in Wales and everywhere you go people are still talking about it and remain extremely angry and frustrated.
The money spent on this crazy vanity project would have been better spent on safeguarding local services.
Sam Rowlands AS yn poeni am gynlluniau i gyflwyno rhagor o gyfyngiadau cyflymder 20mya ar ffyrdd mewn cyngor cyfagos yn Lloegr
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch cynllun cyngor i gyflwyno rhagor o derfynau cyflymder 20mya. Daw hyn yn dilyn y newyddion ysgytwol fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi bron i £200,000 o arian trethdalwyr Cymru i gynghorau Lloegr i osod terfynau cyflymder o 20mya dros y ffin.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr ac un sydd wedi beirniadu’r broses o weithredu'r polisi yng Nghymru yn llym:
Unwaith eto, rydyn ni wedi gweld bod Llafur wedi ymrwymo i wneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn ac yn mynd i frwydr â defnyddwyr y ffyrdd.
Yn gyntaf, defnyddiodd y Blaid Lafur eu mwyafrif yn Senedd Cymru i leihau'r terfyn cyflymder diofyn yng Nghymru. Yna fe wnaeth Gweinidogion Llafur yn Llywodraeth Cymru gynnig arian i'w cydweithwyr yn y Blaid Lafur sy'n rhedeg Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer i leihau cyfyngiadau cyflymder yno.
A nawr rydyn ni'n gweld cynghorwyr Llafur, gyda chefnogaeth y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gwthio'r syniad twp hwn ar ddefnyddwyr ffyrdd yn y Wirral. Unwaith eto, bydd yn effeithio ar bobl sy'n ceisio byw eu bywydau bob dydd.
Mae'n amlwg y bydd y Blaid Lafur ledled y DU yn manteisio ar unrhyw gyfle i wthio eu prosiectau eu hunain , fel y terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Mae wedi bod yn drychineb llwyr yng Nghymru a phob man rydych chi'n mynd mae pobl yn dal i siarad amdano ac yn parhau i fod yn eithriadol o ddig a rhwystredig.
Byddai wedi bod yn llawer gwell pe bai'r arian sydd wedi cael ei wario ar y prosiect gwallgof hwn wedi mynd ar ddiogelu gwasanaethau lleol.