Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed concern over the possibility of people being charged for parking at work.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
Previously, Labour Ministers and backbenchers have advocated for a workplace parking levy for councils to put in place in Wales.
A workplace parking levy, in my view, would punish those who are perhaps most squeezed at the moment—people who are working hard, trying to put food on the table whilst getting to work.
We know, in Scotland, that a workplace parking levy introduced in spring 2022 allowed councils to impose taxes on car parking spaces at places of work.
Mr Rowlands asked Finance Minister, Rebecca Evans to commit to not implementing a workplace parking levy, and that councils won’t be seeking to put those in place across Wales.
The Minister confirmed that she was not having any discussions at the moment with councils in regard to a workplace parking levy.
Mr Rowlands added:
I was delighted to receive the confirmation and just hope that Welsh Government keep their word and charging people for parking at their workplace will not happen.
Sam Rowlands AS yn poeni y gallai cynghorau gyflwyno taliadau parcio yn y gweithle
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch y posibilrwydd y bydd pobl yn gorfod talu am barcio yn y gwaith.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Yn flaenorol, mae Gweinidogion Llafur ac aelodau’r meinciau cefn wedi eiriol dros gynghorau yn rhoi ardoll parcio yn y gweithle ar waith yng Nghymru.
Byddai ardoll parcio yn y gweithle, yn fy marn i, yn cosbi’r rhai sydd efallai’n cael eu gwasgu fwyaf ar hyn o bryd – pobl sy’n gweithio’n galed, yn ceisio rhoi bwyd ar y bwrdd a chyrraedd y gwaith.
Rydyn ni’n gwybod, yn yr Alban, bod ardoll parcio yn y gweithle a gyflwynwyd yn ystod gwanwyn 2022 wedi caniatáu i gynghorau osod trethi ar lefydd parcio ceir mewn mannau gwaith.
Gofynnodd Mr Rowlands i’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ymrwymo i beidio gweithredu ardoll parcio yn y gweithle, ac na fydd cynghorau’n ceisio eu rhoi ar waith ledled Cymru.
Cadarnhaodd y Gweinidog nad oedd hi’n cael unrhyw drafodaethau ar hyn o bryd gyda chynghorau mewn perthynas ag ardoll parcio yn y gweithle.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y cadarnhad ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw ei gair ac na fydd codi tâl ar bobl am barcio yn eu gweithle yn digwydd.