Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Gladstone’s Library will once again be giving people a chance to glimpse behind the scenes.
On Saturday, September 14, Gladstone’s Library in Hawarden, is taking part in Open Doors 2024 where visitors will be invited to explore the history, collections and architecture of the UK’s only Prime Ministerial Library.
Mr Rowlands, a great supporter of encouraging people to find out more about our heritage said:
I am a great supporter of this fantastic library and the Open Doors initiative which is organised by CADW which protects our historic buildings across Wales.
Gladstone’s Library, is a national attraction and an extremely valuable part of our heritage, and it is great that visitors will be able to take a look at what goes on behind the scenes there.
Last year’s event was a great success and I would urge anyone who wants to find out more about the building and the treasures it houses to help celebrate the Open Doors festival and book a place.
Alexandra Foulds, Archivist at Gladstone’s Library, said:
This is an opportunity to see some of the highlights of Gladstone’s Library’s printed collections and archives, have a tour of our Reading Rooms, and go behind the scenes in our strongrooms.
This year’s event will focus on the early years of Gladstone’s Library. We’ll explore the foundation of the Library by William Gladstone in 1894 and what it looked like during his lifetime, the construction of our current building as the national monument to Gladstone after his death, and early visitors to the Library. We’ll discuss Gladstone as a lifelong reader and book-lover, his vision for the Library, and how this is implemented today.
As well as the beautiful Reading Rooms which house 150,000 printed books (20,000 of which belonged to Gladstone), the library has an extensive collection of archives.
The Reading Rooms are open to registered Readers and residents but are not normally open to the public. The strongrooms are normally only accessible to staff.
Gladstone’s Library has taken part in Open Doors for several years, rejoining in 2023 after ‘resting’ the scheme around the initial Covid pandemic.
This year, there will be five tours each lasting approximately 60 minutes and with a maximum capacity of 18 people per tour. They will take place at 9.30am, 10.45am, 12pm, 2pm and 3.15pm.
Places are free, but attendees must book ahead. Email [email protected] or call 01244 532 350 to check availability. You can check the events section of www.gladstoneslibrary.org for regular tour dates and other activities at the Library.
Sam Rowlands AS yn falch o weld adeilad hanesyddol ym Mhenarlâg yn cymryd rhan mewn gŵyl genedlaethol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu'r newyddion y bydd Llyfrgell Gladstone unwaith eto yn rhoi cyfle i bobl gael cipolwg y tu ôl i'r llenni.
Ddydd Sadwrn, 14 Medi, bydd Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg, yn cymryd rhan yn Drysau Agored 2024 lle gwahoddir ymwelwyr i archwilio hanes, casgliadau a phensaernïaeth unig Lyfrgell Prif Weinidogol y DU.
Meddai Mr Rowlands, sy’n daer o blaid annog pobl i ddarganfod mwy am ein treftadaeth:
Rwy'n gefnogwr brwd o'r llyfrgell wych hon a'r fenter Drysau Agored sy'n cael ei threfnu gan CADW sy'n gwarchod ein hadeiladau hanesyddol ledled Cymru.
Mae Llyfrgell Gladstone, yn atyniad cenedlaethol ac yn rhan hynod werthfawr o'n treftadaeth, ac mae'n wych gwybod y bydd ymwelwyr yn gallu edrych ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yno.
Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am yr adeilad a'r trysorau sydd yno i helpu i ddathlu'r ŵyl Drysau Agored a chadw lle.
Meddai Alexandra Foulds, Archifydd Llyfrgell Gladstone:
Dyma gyfle i weld rhai o uchafbwyntiau casgliadau ac archifau printiedig Llyfrgell Gladstone, cael taith o amgylch ein Hystafelloedd Darllen, a chael cip y tu ôl i'r llenni yn ein hystafelloedd diogel.
Bydd y digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar Llyfrgell Gladstone. Byddwn yn archwilio sylfaen y Llyfrgell gan William Gladstone yn 1894 ac yn ystyried sut olwg oedd arno yn ystod ei oes, adeiladu ein hadeilad presennol fel cofeb genedlaethol i Gladstone ar ôl ei farwolaeth, ac ymwelwyr cynnar â'r Llyfrgell. Byddwn yn trafod Gladstone fel darllenydd gydol oes a llyfr-garwr, ei weledigaeth ar gyfer y Llyfrgell, a sut mae hyn yn cael ei roi ar waith heddiw.
Yn ogystal â'r Ystafelloedd Darllen hardd sy'n gartref i 150,000 o lyfrau printiedig (20,000 ohonyn nhw’n perthyn i Gladstone), mae gan y llyfrgell gasgliad helaeth o archifau.
Mae'r Ystafelloedd Darllen ar agor i Ddarllenwyr a phreswylwyr cofrestredig ond dydyn nhw ddim fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Fel arfer, dim ond y staff sy’n cael mynediad i’r ystafelloedd diogel.
Mae Llyfrgell Gladstone wedi cymryd rhan yn Drysau Agored ers sawl blwyddyn, gan ailymuno yn 2023 ar ôl 'gorffwyso' y cynllun dros gyfnod cyntaf y pandemig Covid.
Eleni, bydd pum taith yn para tua 60 munud yr un gyda hyd at 18 o bobl fesul taith. Byddant yn cael eu cynnal am 9.30am, 10.45am, 12pm, 2pm a 3.15pm.
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n mynychu gadw eu lle ymlaen llaw. E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01244 532 350 i holi am argaeledd. Gallwch holi adran digwyddiadau www.gladstoneslibrary.org am ddyddiadau teithiau rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y Llyfrgell.