Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to learn more about their wonderful region and help promote tourism.
Mr Rowlands Chairman of the Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism is a keen supporter of the industry and is urging people to sign up and become an Ambassador during the inaugural Wales Ambassador Week from November 20-26.
He said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging and promoting tourism in North Wales and I am delighted to support a scheme which will provide people with the tools to learn more about our wonderful region.
We have so many excellent attractions in the region and I welcome any moves to encourage people to learn more about what we have.
It is an ideal opportunity for local people, interested in helping promote their areas, to sign up for an award-winning online scheme providing people with training and knowledge about the special qualities of areas in Wales.
I have often spoken in Welsh Parliament about the importance of tourism in North Wales as I firmly believe it is a special place for attracting tourists and ultimately helps to boost the economy.
The Wales Ambassador Scheme is open to everyone and it’s a great way to learn more about the unique characteristics of each place. A series of online modules on a variety of themes is offered. This includes Welsh language, communities, culture, history, landscapes, sustainable tourism, cycling and walking. There are three levels of awards – bronze, silver and gold, depending on the number of modules completed. Rewards including certificates and badges are sent to everyone who completes the levels.
Free courses are offered on Eryri and Bannau Brycheiniog National Parks, Denbighshire, Conwy, Gwynedd, Isle of Anglesey, Flintshire, Wrexham, Ceredigion and Carmarthenshire. A Cultural Ambassador course will be launched shortly. Ambassadors are actively encouraged to sign up to multiple courses to extend their learning about Wales and be part of a wider community.
The aim of the Wales Ambassador Week is to highlight the diverse range of people that have benefitted from becoming an Ambassador and to encourage others to join. A number of activities will be organised during the week including an online event specifically for Ambassadors with speakers from Visit Wales and Eryri National Park will be discussing the plastic-free Yr Wyddfa project. The Wales Official Tourist Guide Association will also be attending and explaining how to become a Wales Tourist Guide. Other activities include an evening under the stars to learn about the Welsh names and mythology behind the constellations; an interactive session on how to use smart phones to create social media content and a speed networking event to explore how businesses can work together.
There is currently over 3,750 people registered with over 2,700 people reaching bronze level, not only from within Wales but from all over the UK and beyond. 6,243 bronze, silver and gold badges have been awarded with around two thirds of bronze achievers going on to reach gold. 15-20% of users enrol onto more than one course.
The Wales Ambassador Scheme is sponsoring the Skills in Tourism & Hospitality Award at the Go North Wales Tourism Awards on November 23. The scheme won this award last year.
For more information on the Wales Ambassador Week and to sign-up please visit the Wales Ambassador website.
Sam Rowlands yn cefnogi Wythnos Llysgenhadon gyntaf Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i ddysgu mwy am eu rhanbarth gwych a helpu i hyrwyddo twristiaeth.
Mae Mr Rowlands Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn gefnogwr brwd o'r diwydiant ac mae'n annog pobl i gofrestru a dod yn Llysgennad yn ystod Wythnos Llysgenhadon gyntaf Cymru rhwng 20 a 26 Tachwedd.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog a hyrwyddo twristiaeth yma'n y Gogledd ac rwy'n falch iawn o gefnogi cynllun a fydd yn rhoi'r adnoddau i bobl ddysgu mwy am ein rhanbarth hyfryd.
Mae gennym gymaint o atyniadau gwych yn y rhanbarth ac rwy'n croesawu unrhyw gamau i annog pobl i ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym.
Mae'n gyfle delfrydol i bobl leol, sydd â diddordeb mewn helpu i hyrwyddo eu hardaloedd, gofrestru ar gyfer cynllun ar-lein arobryn sy'n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru.
Rwyf wedi siarad yn aml yn Senedd Cymru am bwysigrwydd twristiaeth yn y Gogledd gan fy mod i'n gwbl grediniol ei fod yn lle arbennig i ddenu ymwelwyr a hybu'r economi yn y pen draw.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar agor i bawb ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar bob math o themâu. Yn eu plith, y Gymraeg, cymunedau, hanes a diwylliant, tirweddau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae tri dyfarniad gwahanol - efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblhawyd. Bydd gwobrau, gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau, yn cael eu hanfon at bawb sy'n cwblhau'r lefelau.
Cynigir cyrsiau am ddim ar Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd cwrs Llysgennad Diwylliannol yn cael ei lansio'n fuan. Mae llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau i ddysgu mwy am eu gwlad a bod yn rhan o gymuned ehangach.
Nod Wythnos Llysgenhadon Cymru yw tynnu sylw at yr ystod amrywiol o bobl sydd wedi elwa ar fod yn Llysgennad ac annog eraill i ymuno. Trefnir nifer o weithgareddau gydol yr wythnos gan gynnwys digwyddiad ar-lein penodol i Lysgenhadon gyda siaradwyr o Croeso Cymru, a bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod prosiect Yr Wyddfa di-blastig. Bydd Cymdeithas Tywyswyr Twristiaeth Swyddogol Cymru hefyd yn mynychu ac yn esbonio sut i ddod Dywysydd i Dwristiaid. Ymhlith y gweithgareddau eraill mae noson dan y sêr i ddysgu am yr enwau Cymraeg a'r chwedloniaeth y tu ôl i'r cytserau; sesiwn ryngweithiol ar sut i ddefnyddio ffonau clyfar i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a digwyddiad gwibweithio i drafod sut gall busnesau gydweithio.
Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o'r DU a thu hwnt. Mae 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur wedi eu dyfarnu, a tua dwy ran o dair o gyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyrraedd y safon aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn noddi'r Wobr Sgiliau mewn Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales ar 23 Tachwedd. Enillodd y cynllun y wobr hon y llynedd.
Am fwy o wybodaeth am Wythnos Llysgenhadon Cymru ac i gofrestru ewch i wefan Llysgennad Cymru.