The Secretary of State for Wales, Robert Buckland MP, joined Clwyd West MS Darren Millar and North Wales MS Sam Rowlands on a visit to an Old Colwyn School last week to celebrate the £180,750 funding they received from the UK Government to improve sports facilities at the school.
It was announced earlier this year that Ysgol Bryn Elian was to be one of seven North Wales projects to receive funds to improve grassroots sports facilities.
The school was awarded £180,750 which was used to convert an old sand-based pitch at the school’s grassroots facility into a new 3G surface, allowing it to be used all year round. A further £50,000 was provided out of the school’s own resources.
The money also paid for the replacement of the floodlights to allow the school to expand its sports provision and cater for the increasing demand for facilities locally, including girls’ football and disability sports.
The Secretary of State for Wales visited the school with Darren and Sam to see the new facility.
Commenting afterwards, Darren said:
I am delighted that Ysgol Bryn Elian was one of seven projects in North Wales selected to benefit from this funding. The new pitch looks fantastic and pupils and staff at the school are thrilled with it. They have been trying for almost 10 years to secure funding for these improvements, so this investment from the UK Government was very welcome indeed.
Sam said:
A total of 17 schemes across the whole of Wales split a total £1.3 million of UK government money to create and improve pitches, changing rooms and pavilions.
The funding is part of a major commitment by the government to level up access to physical activity across the country. I was very impressed by the new pitch, it is a great asset to the school and the local community.
The Secretary of State for Wales, Robert Buckland MP, said:
It was a great pleasure to visit Ysgol Bryn Elian in Old Colwyn, to meet with the Headteacher Dave Humphreys, school governors and a representative of Football Association Wales (FAW), and to be shown the new pitch which will benefit local children greatly.
17 projects across Wales received funding to create and improve pitches, changing rooms and pavilions, so that more local communities can access high-quality facilities. The grant to Bryn Elian was the second largest in Wales.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag ysgol yn Hen Golwyn i ddathlu buddsoddiad mewn chwaraeon
Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland AS, â Darren Millar, Aelod o Senedd Cymru dros Orllewin Clwyd, a Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, ar ymweliad ag ysgol yn Hen Golwyn yr wythnos ddiwethaf i ddathlu’r cyllid o £180,750 y mae wedi’i dderbyn gan Lywodraeth y DU i wella cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol.
Cyhoeddwyd yn gynharach eleni y byddai Ysgol Bryn Eilian yn un o saith prosiect yn y Gogledd i dderbyn arian i wella cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad.
Dyfarnwyd £180,750 i’r ysgol. Defnyddiwyd yr arian i droi hen gae tywod yng nghyfleuster llawr gwlad yr ysgol yn gae chwarae ag arwyneb 3G newydd, sy’n golygu bod modd ei ddefnyddio gydol y flwyddyn. Darparwyd £50,000 arall o adnoddau’r ysgol ei hun.
Talodd yr arian am lifoleuadau newydd hefyd i alluogi’r ysgol i ehangu ei darpariaeth chwaraeon a darparu ar gyfer y galw cynyddol am gyfleusterau’n lleol, yn cynnwys pêl-droed merched a chwaraeon i’r anabl.
Aeth yr Ysgrifennydd Gwladol gyda Darren a Sam i’r ysgol i weld y cyfleuster newydd.
Wrth siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Darren:
Rwy’n falch iawn bod Ysgol Bryn Elian yn un o’r saith prosiect yn y Gogledd sydd wedi elwa ar y cyllid hwn. Mae’r cae newydd yn edrych yn wych ac mae disgyblion a staff yr ysgol wrth eu bodd. Maent wedi bod yn ceisio sicrhau cyllid ar gyfer y gwelliannau hyn am bron i 10 mlynedd, felly cafodd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU groeso mawr.
Meddai Sam:
Rhannodd 17 cynllun ledled Cymru gyfanswm o £1.3 miliwn o arian Llywodraeth y DU i greu a gwella caeau chwarae, ystafelloedd newid a phafiliynau.
Mae’r cyllid yn rhan o ymrwymiad mawr gan y llywodraeth i gysoni mynediad i weithgarwch corfforol ledled y wlad. Mae’r cae newydd yn werth ei weld, ac mae’n ased gwych i’r ysgol a’r gymuned leol.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland AS:
Roedd hi’n bleser mawr cael ymweld ag Ysgol Bryn Elian yn Hen Golwyn, i gyfarfod y Pennaeth Dave Humphreys, llywodraethwyr yr ysgol a chynrychiolydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a chael gweld y cae newydd a fydd o fudd mawr i blant lleol.
Derbyniodd 17 prosiect ledled Cymru gyllid i greu a gwella caeau chwarae, ystafelloedd newid a phafiliynau, fel bod mwy o gymunedau lleol yn gallu cael mynediad i gyfleusterau o’r radd flaenaf. Y grant i ysgol Bryn Elian oedd yr ail uchaf yng Nghymru.