The Covid lockdown has led to a successful Denbighshire business branching out to provide a unique visitor experience which can be enjoyed by all ages.
Having resided on the slope of Moel Famau for three generations, lockdown provided the Davies family with a chance to pause and reflect on the importance that the countryside plays in people’s lives, and as a result they have opened Moel Famau Donkeys (www.moelfamaudonkeys.co.uk).
Last week Clwyd West MS Darren Millar and North Wales MS Sam Rowlands paid the family a visit to find out more about the Donkey Trail, which visitors can enjoy, and also called at their Larch Cladding Company, a bespoke, high quality cutting service for larch cladding, fencing, roof shingles, sleepers or any bespoke cut wood.
Darren said:
The donkey trails are set in the most spectacular location and provide people of all ages with the opportunity to experience the natural beauty of the area. Walking along these trails alone is quite an experience, but having been introduced to donkeys by family friends, the Davies’ decided to put the two together to create a unique experience.
Spending time in the outdoors with the donkeys has proven mental health benefits. Donkeys have helped servicepeople and terrorist attack survivors to cope with PTSD, as well as proving to be great therapy animals for kids with autism and learning difficulties.
The pandemic was a challenging time for businesses, so it is very pleasing that this family businesses was able to use the time in lockdown to consider the future of their business and as a result are now providing an experience that I am sure both locals and visitors to the area will very much enjoy.
Sam added:
I was very pleased to meet the Davies family and to hear how their business has developed since they first took over the site in 1977. They began as a Dairy Farm milking 100 cows and 200 sheep on their acres, and in 1991, they diversified into a Sawmill and Horse Bedding Production facility.
Their location in the shadow of Moel Famau, part of the beautiful Clwydian Range (AONB), is spectacular and I am therefore pleased that they are now offering a trail over the paths and fields, with an accompanying miniature donkey if you so wish!
The trail itself is roughly 1 mile long and reaches up to 1,000ft above sea level at its highest point. The first half of the walk involves a gradual climb, overlooking Llanferres village, Loggerheads and Colomendy. Higher up and further afield walkers can see towards The Wirral, Flint, Deeside and Liverpool. On the walk there are opportunities to take in the view from the family’s bespoke, handmade, benches and plenty of chances for photos with the donkeys.
A variety of trees will also be seen during the trail. Some huge and ancient Sycamore, Beech and Ash trees and others more recently donated by the Wildlife Trust, North Wales. A variety of Silver Birch, Oak, Rowan, Hornbeam, Hazel and Scots pine were donated to help reduce flooding further down the River Alyn catchment, along with making the trail as beautiful as possible. The family are actively trying to support the local habitat and have planted wildflowers along the trail to encourage birds and bees to visit too.
After visiting the family’s Larch Cladding Company, Darren said:
This company supplies Larch, Douglas Fir and Cedar, which I was pleased to learn is all locally sourced from sustainable forests within 50 miles, which means a lower carbon footprint from importing and a much more reliable supply chain.
We were given a tour of the site and shown some of the beautiful bespoke products they produce.
I wish the family continued success with their cladding company and hope that their new venture with the donkeys flourishes in the same way.
Sam added:
The family are living proof that hard work results in great success. The challenges of the past two years have not prevented them from developing their business and I am confident that their latest venture will be hugely successful. I wish them the very best going forward.
For further information or to book to visit Moel Famau Donkeys, visit: https;//www.moelfamaudonkeys.co.uk
For further information on The Larch Cladding Company, visit ; https://www.thelarchcladdingcompany.co.uk
Busnes teuluol llwyddiannus yn Sir Ddinbych yn cynnig profiad asynnod newydd
O ganlyniad i'r cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19, mae busnes llwyddiannus yn Sir Ddinbych yn paratoi i gynnig profiad unigryw i ymwelwyr a fydd yn apelio at bobl o bob oed.
Mae'r teulu Davies wedi byw ar lethrau Moel Famau ers tair cenhedlaeth, ac roedd y cyfyngiadau symud yn gyfle iddynt oedi a myfyrio ar bwysigrwydd cefn gwlad i fywydau pobl, gan fynd ati i agor cwmni Asynnod Moel Famau (www.moelfamaudonkeys.co.uk).
Yr wythnos diwethaf, bu AS Gorllewin Clwyd Darren Millar ac AS Gogledd Cymru Sam Rowlands yn ymweld â'r teulu i ddysgu mwy am y Llwybr Asynnod sydd wedi’i greu i ymwelwyr. Hefyd, ymwelodd y ddau â Chwmni Cladin Llarwydd y teulu, gwasanaeth torri pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer cladin llarwydd, ffensys, estyll to, trawstiau neu unrhyw bren sydd wedi'i dorri'n bwrpasol.
Meddai Darren:
Mae'r llwybrau asynnod wedi'u lleoli mewn ardal hynod drawiadol ac maen nhw'n rhoi cyfle i bobl o bob oed fwynhau harddwch naturiol yr ardal. Mae cerdded ar hyd y llwybrau hyn ar eich pen eich hun yn brofiad gwych ynddo’i hun, ond ar ôl i'r teulu Davies gael eu cyflwyno i asynnod gan ffrindiau, roedden nhw'n awyddus i gyfuno'r ddwy elfen a chreu profiad unigryw.
Mae treulio amser yn yr awyr agored gyda'r asynnod yn gallu rhoi hwb i iechyd meddwl pobl. Mae asynnod wedi helpu cyn aelodau o'r lluoedd arfog a goroeswyr ymosodiadau terfysgol i ymdopi ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, ac maen nhw wedi dangos eu bod yn anifeiliaid therapi gwych ar gyfer plant ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu.
Roedd y pandemig yn gyfnod heriol i fusnesau, felly mae'n braf iawn bod y teulu hwn wedi gallu defnyddio'r amser yn ystod y cyfyngiadau symud i ystyried dyfodol eu busnes. O ganlyniad, maen nhw bellach yn cynnig profiad sy'n siŵr o apelio at bobl leol ac ymwelwyr â'r ardal.
Meddai Sam:
Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod â'r teulu Davies a chlywed sut mae eu busnes wedi datblygu ers iddynt ddod yn berchnogion ar y safle ym 1977. Dechreuodd y busnes fel fferm laeth yn godro 100 o wartheg, a 200 o ddefaid, ac ym 1991, aethant ati i arallgyfeirio gan sefydlu Melin Lifio a chyfleuster Cynhyrchu Sarn i Geffylau.
Mae lleoliad y busnes yng nghysgod Moel Famau a harddwch Bryniau Clwyd (AHNE) yn hynod drawiadol, ac rwyf wrth fy modd bod y teulu yn cynnig taith dros y llwybrau a'r caeau, gydag asyn bach yn gwmni os ydych yn dymuno!
Mae'r llwybr ei hun tua milltir o hyd ac mae'n cyrraedd hyd at 1,000 o droedfeddi uwchben lefel y môr ar ei uchaf. Mae hanner cyntaf y daith yn dringo’n raddol, gan gynnig golygfa dros bentref Llanferres, Loggerheads a Colomendy. Ymhellach i fyny eto mae cerddwyr yn gallu gweld Cilgwri, y Fflint, Glannau Dyfrdwy a Lerpwl yn y pellter. Yn ystod y daith, mae cyfleoedd i fwynhau'r olygfa wrth eistedd ar feinciau pwrpasol, wedi'u gwneud â llaw gan y teulu, a chyfleoedd di-ri i dynnu lluniau gyda'r asynnod.
Bydd ymwelwyr yn gweld coed amrywiol ar y daith hefyd. Maent yn cynnwys coed Masarn, Ffawydd ac Ynn enfawr a hynafol, a mathau eraill o goed a roddwyd yn fwy diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Natur, Gogledd Cymru. Rhoddwyd amrywiaeth o goed Bedwen Arian, Derw, Criafol, Ieuwydd, Cyll a Phinwydd yr Alban er mwyn helpu i leihau llifogydd ymhellach i lawr dalgylch Afon Alun a gwneud y llwybr mor hardd â phosibl. Mae'r teulu wrthi'n ceisio cefnogi cynefinoedd lleol gan blannu blodau gwyllt ar hyd y llwybr i annog adar a gwenyn i ymweld hefyd.
Ar ôl ymweld â Chwmni Cladin Llarwydd y teulu, dywedodd Darren:
Mae'r cwmni hwn yn cyflenwi Llarwydd, Pinwydd Douglas a Chedrwydd, ac roedd yn dda gennyf glywed bod y coed hyn yn dod o goedwigoedd cynaliadwy lleol o fewn 50 milltir. O ganlyniad, mae'r busnes yn lleihau ei ôl troed carbon trwy beidio â mewnforio pren, ac yn sicrhau cadwyn gyflenwi llawer mwy dibynadwy.
Cawsom daith o amgylch y safle a chyfle i weld rhai o'r cynhyrchion pwrpasol hardd sy'n cael eu cynhyrchu yno.
Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r teulu gyda’u cwmni cladin ac yn gobeithio y bydd eu menter newydd gyda'r asynnod yn ffynnu yn yr un ffordd.
Meddai Sam:
Mae'r teulu’n brawf bod gwaith caled yn esgor ar gryn lwyddiant. Dyw heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf ddim wedi atal y teulu rhag datblygu’r busnes, ac rwy'n hyderus y bydd eu menter ddiweddaraf yn hynod lwyddiannus. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt wrth symud ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ag Asynnod Moel Famau, ewch i: https://www.moelfamaudonkeys.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwmni Cladin Llarwydd, ewch i: https://www.thelarchcladdingcompany.co.uk