Since May 2021, I’ve had the honour of representing North Wales in the Welsh Parliament and I’ve been working hard and campaigning to boost jobs and investment in communities.
I also regularly raise local issues in Cardiff and challenge the Welsh Government to deal with some of the problems facing our country; here is a brief update on three areas I’m focusing on at the moment.
As I’m sure you’ll agree, our Welsh NHS is a national institution that we should all be proud of but at this time NHS services across the United Kingdom are all under immense pressure, and nowhere more so than here in Wrexham. Last year Wrexham Maelor Hospital recorded the worst monthly A&E performance ever seen in Wales despite the Welsh Government receiving an extra 20% per person funding for NHS services compared with health services in Chester and Merseyside.
As your MS I will continue to call on the Welsh Government to tackle the chronic issues facing our Welsh NHS, whilst supporting local people to ensure they and their families receive the health treatment that they deserve, but also pay for through their taxes.
Another key focus of mine is levelling up communities throughout Wrexham and Deeside. Locally I’ve been backing improvements to the Wrexham-Bidston Railway line, increasing capacity and providing a new station on the Deeside Industrial Park.
Along with this, I’ve been supporting the UK and Welsh Government’s efforts to bring the Advanced Technology Research Centre to North East Wales, a national project that will put us at the centre of advanced engineering for years to come.
As many local residents will know from personal experience, thousands of people throughout Wrexham and Deeside have strong connections with our neighbours in England. Every day around 200,000 movements take place across the Welsh and English border, with people working and seeing their friends and family. I have held meetings with Mersey Dee Alliance and other organisations as I think it is vitally important to focus on improving cross-border links and working with our neighbours.
As we all know, Wrexham and Deeside continue to be home to a range of great businesses and household names, such as Airbus, Tata Steel and Plastipak. These businesses do so much in supporting the local economy and providing well-paid and successful careers for local people.
I’ve had the pleasure of working alongside these businesses and the Leader of Wrexham County Borough Council, Mark Pritchard, to help them flourish, whilst calling on the Welsh Government to do more to enable a more business friendly environment. Now is the time to unlock the fantastic potential that we have in North East Wales.
My other focus is in relation to sport. And in recent years, it has been so good to see the success of Wrexham AFC, who are smashing their way through the FA Cup, whilst aiming to return to the Football League. As we saw throughout Covid-19, sport is vital to our local communities and people’s health and wellbeing.
However, it is disappointing that we have just one professional sports team in North Wales and we continue to see disproportionate investment in sports and leisure, focused in South Wales. It is about time more was done to put this right so there can be equal sporting opportunities for all.
As a Member of the Welsh Parliament for North Wales, I’m here to help you with any issues that you may have. Please email me on [email protected], call my office on 0300 200 7267, or visit my website www.samrowlands.org.uk.
Barn Sam Rowlands – Wrexham.com
Ers mis Mai 2021, dwi wedi cael yr anrhydedd o gynrychioli'r Gogledd yn Senedd Cymru ac wedi bod yn gweithio'n galed ac ymgyrchu i hybu swyddi a buddsoddi mewn cymunedau.
Rydw i’n codi materion lleol yng Nghaerdydd yn gyson hefyd ac yn herio Llywodraeth Cymru i ymdrin â rhai o'r problemau sy'n wynebu ein gwlad; dyma ddiweddariad cryno ar dri maes rwy'n canolbwyntio arnyn nhw ar hyn o bryd.
Fel y cytunwch dwi'n siŵr, mae ein GIG Cymru yn sefydliad cenedlaethol y dylen ni i gyd ymfalchïo ynddo, ond mae gwasanaethau'r GIG ledled y Deyrnas Unedig dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac yn fwy felly yn unman nag yma yn Wrecsam. Y llynedd fe wnaeth Ysbyty Wrecsam Maelor gofnodi'r perfformiad damweiniau ac achosion brys misol gwaethaf erioed yng Nghymru er bod Llywodraeth Cymru wedi cael cyllid ychwanegol o 20% y pen ar gyfer gwasanaethau'r GIG o'i gymharu â gwasanaethau iechyd yng Nghaer a Glannau Mersi.
Fel eich AS, byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r problemau cronig sy'n wynebu ein GIG yng Nghymru, wrth gefnogi pobl leol i sicrhau eu bod nhw a'u teuluoedd yn cael y driniaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu, ond hefyd yn talu amdani drwy eu trethi.
Ffocws arall i mi yw codi'r gwastad mewn cymunedau ledled Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Yn lleol, dwi wedi bod yn cefnogi gwelliannau i'r llinell rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston, gan gynyddu capasiti a darparu gorsaf newydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Ynghyd â hyn, bues i'n cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddod â'r Ganolfan Ymchwil Uwch-dechnoleg i Ogledd-ddwyrain Cymru, prosiect cenedlaethol a fydd yn ein rhoi ni wrth galon uwch-beirianneg am flynyddoedd i ddod.
Fel y bydd llawer o drigolion lleol yn gwybod o brofiad personol, mae gan filoedd o bobl ledled Wrecsam a Glannau Dyfrdwy gysylltiadau cryf â'n cymdogion yn Lloegr. Bob dydd mae tua 200,000 o symudiadau dros Glawdd Offa, gyda phobl yn teithio i weithio a gweld eu ffrindiau a'u teulu. Rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a sefydliadau eraill gan fy mod i’n credu ei bod hi'n hollbwysig canolbwyntio ar wella cysylltiadau trawsffiniol a gweithio gyda'n cymdogion.
Fel y gwyddom i gyd, mae Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn parhau i fod yn gartref i amrywiaeth o fusnesau gwych ac enwau cyfarwydd, fel Airbus, Tata Steel a Plastipak. Mae'r busnesau hyn yn gwneud cymaint i gefnogi'r economi leol a darparu gyrfaoedd llwyddiannus sy'n talu'n dda i bobl leol.
Rwyf wedi cael y pleser o weithio ochr yn ochr â'r busnesau hyn ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Mark Pritchard, i'w helpu i ffynnu, wrth alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i alluogi amgylchedd mwy cyfeillgar i fusnesau. Dyma'r amser i ddatgloi'r potensial gwych sydd gennym yma yn y Gogledd-ddwyrain.
Mae fy maes ffocws arall yn ymwneud â chwaraeon. Ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi mor braf gweld llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam, sy'n brasgamu drwy Gwpan yr FA wrth anelu at ddychwelyd i Gynghrair Pêl-droed Lloegr. Fel y gwelsom gydol Covid-19, mae chwaraeon yn hanfodol i iechyd a lles ein cymunedau lleol a'n pobl.
Fodd bynnag, mae'n siomedig mai dim ond un tîm chwaraeon proffesiynol sydd gennym yn y Gogledd a'n bod ni'n parhau i weld buddsoddiad anghymesur mewn chwaraeon a hamdden, sy'n canolbwyntio ar y De. Mae'n hen bryd gwneud mwy i unioni hyn er mwyn sicrhau cyfleoedd chwaraeon cyfartal i bawb.
Fel Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, dwi yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion sydd gennych. Anfonwch e-bost ataf fi yn [email protected], ffoniwch fy swyddfa ar 0300 200 7267, neu ewch i'm gwefan www.samrowlands.org.uk.