The time has come for the Welsh Government’s default 20mph speed limit.
This will apply to ‘restricted roads’ across the whole of Wales. Where the limit may have been 30mph for you, it will now be a ponderous 20mph.
This is a policy cooked up by Cardiff Labour with scant regard for the rest of Wales. I would say it’s fairly common sense to endorse this speed limit in specific places such as outside schools, but it should be limited to clear and obvious locations such as that instead of being imposed en masse.
Labour have never really understood North Wales. Life is different from Cardiff. It’s not always easy to hop on a bus or train, and cars are a much more significant part of life up here.
The numbers are clear that not only will this measure slow Wales down, it will have a huge negative impact on the economy. Welsh Government’s own figures show it will cost the economy a staggering £4.5 billion! To be fair, Labour in Wales have never been bothered about supporting business or the economy before, so why expect them to care now? They are hostile to business and the private sector, instead desperately attempting to appease environmentalists based in London.
A recent article by Professor Stuart Cole, CBE, Emeritus Professor of Transport Economics and Policy at the University of South Wales, outlined more of the issues with this new blanket 20mph limit.
For example, he wrote about the impact on bus travel, with buses operating less efficiently by running at lower speeds – increasing travel times for passengers, and also posing issues with payment for the increased hours for drivers.
Why should a person getting the bus to work be punished with a longer commute? Public transport is bad enough as it is, but thanks to Labour you’ll be paying for an even slower journey.
Professor Cole also pointed to issues with van and driver productivity – delivery drivers will take longer to make their deliveries with these new limits, which will lead to increased distribution costs and then the potential for companies to then increase product prices to the consumer as a result.
The one argument used by proponents of the blanket limit is safety – but when you look at the facts, 20mph doesn’t actually achieve what they say it does. A study from last November by Queen’s University Belfast, Edinburgh University, and the University of Cambridge found that reducing speed limits from 30mph to 20mph actually has “little impact” on road safety.
The Journal of Epidemiology and Community Health said: “our findings showed that a city centre 20mph intervention had little impact on long-term outcomes including road traffic collisions, casualties and speed”.
So, if it doesn’t really make people safer, what is the point of blanket 20mph? It’s all part of Labour’s anti-car, extreme environmentalist agenda. It is pure political ideology that puts the people of Wales last, but makes Labour politicians in Cardiff feel good about themselves.
They are sending signals that Wales is closed for business. It’s harder to imagine businesses investing in Wales now. Not only have Labour stopped roadbuilding, they’re slowing drivers down and imposing the highest business rates in Great Britain. Not particularly appealing if you are looking for a place to invest and create jobs – not to mention the sky high NHS waiting lists and poor educational outcomes.
Make no mistake – this is a bad policy which will impact on the lives of everyone across Wrexham and the whole of Wales. Even as they are rolling it out, I call on the Welsh Government to see sense and ditch this damaging policy.
If you have any queries or issues, please don’t hesitate to get in touch. You can contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Barn Sam Rowlands – Wrexham.com
Mae'r amser wedi dod am derfyn cyflymder 20mya cyffredinol Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn berthnasol i 'ffyrdd cyfyngedig' ledled Cymru gyfan. Lle gallai'r terfyn fod wedi bod yn 30mya i chi, bydd yn awr yn 20mya.
Mae hwn yn bolisi sydd wedi'i lunio gan Lafur Caerdydd heb fawr o ystyriaeth i weddill Cymru. Byddwn i'n dweud mai synnwyr cyffredin yw cymeradwyo'r terfyn cyflymder hwn mewn mannau penodol fel y tu allan i ysgolion, ond dylid ei gyfyngu i leoliadau clir ac amlwg fel hynny yn lle ei orfodi ar bawb ym mhobman
Dyw Llafur erioed wedi deall Gogledd Cymru go iawn. Mae bywyd yn wahanol i Gaerdydd. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd neidio ar fws neu drên, ac mae ceir yn rhan llawer mwy angenrheidiol o fywyd yma.
Mae'r ffigurau’n glir y bydd y mesur hwn nid yn unig yn arafu Cymru, ond bydd hefyd yn cael effaith negyddol enfawr ar yr economi. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos y bydd yn costio cymaint â £4.5 biliwn i'r economi! Er tegwch, dyw Llafur yng Nghymru erioed wedi poeni am gefnogi busnes na'r economi o'r blaen, felly pam disgwyl iddyn nhw boeni rŵan? Maen nhw’n elyniaethus tuag at fusnesau a'r sector preifat, gan wneud pob ymdrech i dawelu amgylcheddwyr yn Llundain.
Mae erthygl ddiweddar gan yr Athro Stuart Cole, CBE, Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, yn amlinellu rhagor o'r problemau gyda'r terfyn 20mya cyffredinol newydd hwn.
Er enghraifft, ysgrifennodd am yr effaith ar deithio ar fysiau, gyda bysiau'n gweithredu'n llai effeithlon drwy symud ar gyflymder arafach. Bydd amseroedd teithio teithwyr yn cynyddu, gyda hyn hefyd yn achosi problemau wrth orfod talu rhagor o oriau i yrwyr.
Pam ddylai person sy'n dal y bws i'r gwaith gael ei gosbi am fod ei daith yn cymryd yn hirach? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigon drwg fel y mae hi, ond diolch i Lafur byddwch yn talu am daith arafach nag erioed.
Tynnodd yr Athro Cole sylw hefyd at broblemau gyda chynhyrchiant faniau a gyrwyr - bydd gyrwyr dosbarthu nwyddau yn cymryd mwy o amser i wneud eu gwaith gyda'r terfynau newydd hyn, a bydd hynny’n arwain at gostau dosbarthu uwch ac yna'r potensial i gwmnïau gynyddu eu prisiau cynnyrch i'r defnyddiwr o ganlyniad i hynny.
Yr un ddadl sy'n cael ei defnyddio gan gynigwyr y terfyn cyffredinol yw diogelwch - ond o edrych ar y ffeithiau, dyw 20mya ddim yn cyflawni'r hyn maen nhw'n ei ddweud go iawn. Datgelodd astudiaeth o fis Tachwedd diwethaf gan Brifysgol Queen's Belfast, Prifysgol Caeredin, a Phrifysgol Caergrawnt nad yw lleihau terfynau cyflymder o 30mya i 20mya yn cael "fawr o effaith" ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Meddai’r Journal of Epidemiology and Community Health: “our findings showed that a city centre 20mph intervention had little impact on long-term outcomes including road traffic collisions, casualties and speed”.
Felly, os nad yw'n gwneud pobl yn fwy diogel mewn gwirionedd, beth yw pwynt y 20mya cyffredinol? Mae'r cyfan yn rhan o agenda amgylcheddol eithafol gwrth-gar Llafur. Ideoleg wleidyddol bur sy'n rhoi pobl Cymru yn olaf, ond sy'n gwneud i wleidyddion Llafur yng Nghaerdydd deimlo'n hunanfoddhaus.
Maen nhw'n rhoi’r neges bod Cymru ar gau ar gyfer busnes. Mae'n anoddach dychmygu busnesau yn buddsoddi yng Nghymru nawr. Mae Llafur nid yn unig wedi rhoi’r gorau i adeiladu ffyrdd, ond maen nhw'n arafu gyrwyr ac yn codi’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Fawr o apêl os ydych chi'n chwilio am le i fuddsoddi a chreu swyddi - heb sôn am restrau aros uchel ofnadwy’r GIG a deilliannau dysgu gwael.
Coeliwch chi fi - mae hwn yn bolisi gwael ar y naw a fydd yn effeithio ar fywydau pawb ar draws Wrecsam a Chymru gyfan. Hyd yn oed wrth iddyn nhw ei gyflwyno, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weld synnwyr a dileu'r polisi niweidiol hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.