One of my favourite parts of being a Senedd Member is getting to see the various school and colleges from our area that are down in Cardiff visiting the Welsh Parliament.
Most recently, it was a group from Ysgol Morgan Llwyd. If my diary permits, I always make sure to pop down and have a chat with the young people, finding out what their interests are and if they have any questions to ask me – and some of them can be pretty tricky to answer!
This particular group were studying Law and Politics, which meant a visit to Cardiff Bay was probably useful for them in their studies.
Regardless of whether they are studying politics or not, it’s good for children and young people to learn about the democratic process across Wales and the United Kingdom. Visits to the Senedd, Westminster and elsewhere are a good way for them to develop knowledge and become more engaged when they get a bit older!
As the group from Morgan Llywyd will know, the journey from North to South Wales can be time consuming and not always fun! If possible, I catch the train down to Cardiff. Unfortunately, all too often these trains are unreliable – sometimes there aren’t enough carriages, sometimes you have to unexpectedly switch trains halfway along the journey and on occasion the train is cancelled completely!
It’s not good enough and the people of Wrexham and North Wales certainly deserve better.
Transport for Wales, the Labour Welsh Government-owned operator who run most trains in Wales, was recently voted as the worst rail operator in the whole of the United Kingdom. This is not a title to be proud of and the reality has a really negative impact on people’s lives.
You may remember when Arriva’s franchise came to an end and they were booted off the rail network, it was a time when many people celebrated.
Unfortunately, Labour’s trains are even worse, show little sign of getting better anytime soon and just last week have required a £125m bail-out to fill a funding black hole.
The Cardiff Labour Government’s transport policies don’t really make much sense to me.
They have imposed a ruinous blanket 20mph speed limit and virtually banned the building of new roads. They clearly have an anti-car agenda and are making it as difficult for motorists as they possibly can.
I have heard the argument that they want to encourage public transport usage, but how can people be expected to use public transport when it has such a terrible record? Around 1 in 10 TfW trains are cancelled – if you rely on the trains to get to work, then that scale of cancellations can make your life very difficult indeed.
First Minister Mark Drakeford and his Transport Minister Lee Waters need to tell us how they will increase reliability on the railways so people aren’t left stranded and in the lurch when they are trying to get to work, visit family or travel to the football at the Racecourse.
Meanwhile, Prime Minister Rishi Sunak has announced a £1 billion investment in the North Wales mainline. This will make journeys across North Wales faster and improve links between our area and the North-West of England, which is vitally important for people here.
That is the difference a Conservative Government at Westminster makes – they have put their faith in North Wales when the Labour-run devolved Government in Cardiff systemically underfunds us when compared to South Wales.
It’s important to remember that when casting your ballot at a UK General Election or a Senedd election.
As ever, if you have any queries or issues, please don’t hesitate to get in touch. You can contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Barn Sam Rowlands – Wrexham.com
Un o fy hoff elfennau o fod yn Aelod o'r Senedd yw cael gweld yr ysgolion a’r colegau amrywiol o'n hardal sydd i lawr yng Nghaerdydd yn ymweld â’r Senedd.
Yn ddiweddar, daeth grŵp o Ysgol Morgan Llwyd ar ymweliad. Os oes lle yn fy nyddiadur, rwyf wastad yn gwneud yn siŵr i alw heibio a chael sgwrs gyda'r bobl ifanc, clywed beth yw eu diddordebau ac a oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau i'w gofyn i mi - a gall rhai ohonyn nhw fod yn eithaf anodd eu hateb!
Roedd y grŵp penodol hwn yn astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a olygai fod ymweliad â Bae Caerdydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn eu hastudiaethau.
P'un a ydyn nhw’n astudio gwleidyddiaeth ai peidio, mae'n dda i blant a phobl ifanc ddysgu am y broses ddemocrataidd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae ymweliadau â'r Senedd, San Steffan a mannau eraill yn ffordd dda iddyn nhw ddatblygu gwybodaeth a chymryd mwu o ran pan fyddan nhw ychydig yn hŷn!
Fel y bydd y grŵp o Morgan Llwyd yn ei wybod, gall y daith o'r Gogledd i'r De gymryd llawer o amser a dyw hi ddim yn hwyl bob tro! Os yn bosibl, dwi'n dal y trên lawr i Gaerdydd. Yn anffodus, yn rhy aml o lawer mae'r trenau hyn yn annibynadwy - weithiau does dim digon o gerbydau, weithiau mae'n rhaid i chi newid trenau hanner ffordd yn annisgwyl ar hyd y daith ac ar adegau mae'r trên yn cael ei ganslo'n llwyr!
Dyw hyn ddim yn ddigon da ac mae pobl Wrecsam a Gogledd Cymru yn sicr yn haeddu gwell.
Yn ddiweddar, pleidleisiwyd Trafnidiaeth Cymru, gweithredwr sy'n eiddo i Lywodraeth Lafur Cymru ac sy'n rhedeg y rhan fwyaf o drenau yng Nghymru, fel y gweithredwr rheilffyrdd gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Dyw hwn ddim yn deitl i fod yn falch ohono ac mae'r realiti yn cael effaith negyddol iawn ar fywydau pobl.
Efallai y byddwch chi’n cofio pan ddaeth masnachfraint Arriva i ben a phan gawsant eu taflu oddi ar y rhwydwaith rheilffyrdd, roedd llawer o bobl ar ben eu digon ac yn dathlu.
Yn anffodus, mae trenau Llafur hyd yn oed yn waeth, a dydyn nhw ddim yn dangos fawr o arwydd o wella unrhyw bryd yn fuan a dim ond yr wythnos diwethaf roedden nhw angen help llaw o £125m i lenwi twll mawr du yn eu cyllideb.
Dyw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Lafur Caerdydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi.
Maen nhw wedi gosod terfyn cyflymder 20mya cyffredinol ac i bob pwrpas wedi gwahardd adeiladu ffyrdd newydd. Mae'n amlwg bod ganddyn nhw agenda gwrth-geir ac maen nhw'n ei gwneud hi mor anodd â phosib i fodurwyr.
Rwyf wedi clywed y ddadl eu bod am annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ond sut y gellir disgwyl i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo ganddo record mor ofnadwy? Mae tua 1 o bob 10 trên TrC yn cael eu canslo - os ydych chi'n dibynnu ar y trenau i gyrraedd y gwaith, yna mae'r raddfa honno o ganslo yn gallu gwneud eich bywyd yn anodd iawn.
Mae angen i'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'i Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters ddweud wrthym ni sut y byddan nhw’n cynyddu dibynadwyedd ar y rheilffyrdd fel nad yw pobl yn cael eu gadael mewn picil pan fyddan nhw’n ceisio mynd i'r gwaith, ymweld â'r teulu neu deithio i'r gêm ar y Cae Ras.
Yn y cyfamser, mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1 biliwn ym mhrif lein Gogledd Cymru. Bydd hyn yn gwneud teithiau ar draws y Gogledd yn gyflymach ac yn gwella cysylltiadau rhwng ein hardal a Gogledd-orllewin Lloegr, sy'n hanfodol bwysig i’r bobl yma.
Dyna'r gwahaniaeth mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn ei wneud - maen nhw wedi rhoi eu ffydd yng Ngogledd Cymru pan fo'r Llywodraeth ddatganoledig a reolir gan Lafur yng Nghaerdydd yn ein tanariannu'n systematig o'i gymharu â De Cymru.
Mae'n bwysig cofio hynny wrth fwrw eich pleidlais yn Etholiad Cyffredinol y DU neu etholiad y Senedd.
Fel erioed, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu broblemau, mae croeso i chi gysylltu â mi. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.