Last week, the Head of Investigations at the Public Services Ombudsman for Wales resigned after being proven to have expressed political bias, with derogatory social media comments, including “f*ck the Tories”.
The Ombudsman’s office is supposed to conduct itself with dignity, respect and fairness. It’s clear that these actions fell far short of the standard required.
In the Senedd next Wednesday (17/04/24), the Welsh Conservatives are bringing forward a Senedd motion regarding this shocking situation, whilst calling for a review into the operations, processes and investigations carried out by the Public Services Ombudsman for Wales to ensure confidence from the public, and impartiality and fairness are always present.
Commenting ahead of the debate, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister, Sam Rowlands MS, said:
The hateful comments from someone with such seniority in the Ombudsman office were shocking and it was deeply concerning that such a prejudicial attitude was on display, especially when the expectation of the office is to conduct itself with dignity, respect and fairness.
Whilst it is welcome that the person in question has been suspended, it raises the question of her past discretions and the oversight of the organisation.
Being a former Labour Council leader, former Labour candidate and a former Chair of the Society of Labour lawyers, the appointment of James Goudie KC to lead the review into the Public Services Ombudsman raises serious doubts about its credibility.
Y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig y Senedd ar Adolygiad yr Ombwdsmon o "F**k the Tories"
Yr wythnos diwethaf, ymddiswyddodd Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ôl iddo fynegi rhagfarn wleidyddol, gyda sylwadau difrïol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys "f*ck the Tories".
Mae swyddfa'r Ombwdsmon i fod i ymddwyn gydag urddas, parch a thegwch. Mae'n amlwg bod yr ymddygiad hwn ymhell o'r safon angenrheidiol.
Yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (17/04/24), bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig i'r Senedd ynglŷn â'r sefyllfa frawychus hon, gan alw am adolygiad i weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn yr Ombwdsmon, a’i fod yn gweithredu’n ddiduedd a theg bob amser.
Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS:
Roedd y sylwadau atgas gan rywun ar lefel mor uchel yn swyddfa'r Ombwdsmon yn frawychus ac roedd gweld agwedd mor rhagfarnllyd yn cael ei harddangos yn destun pryder mawr, yn enwedig pan fo disgwyl i’r Ombwdsmon ymddwyn gydag urddas, parch a thegwch.
Er ein bod yn croesawu’r ffaith bod y person dan sylw wedi cael ei hatal, mae'n codi cwestiwn am ei disgresiwn yn y gorffennol a goruchwyliaeth y sefydliad.
Mae penodi James Goudie KC i arwain yr adolygiad i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn codi amheuon difrifol am ei hygrededd yn sgil y ffaith ei fod yn gyn-arweinydd y Cyngor Llafur, yn gyn-ymgeisydd Llafur ac yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Llafur.