Two Welsh councils have said they are bracing for significant cost cuts as they face budget shortfalls.
Commenting on the news, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister, Sam Rowlands MS said:
Councils should be focused on delivering vital public services for local people, but instead they are having to deal with endless Labour diktats from Cardiff Bay. The lack of funding for the rollout of the free school meals programme is a prime example of this, leaving councils to foot the bill.
I would urge Labour to provide additional, targeted support to councils in dealing with rising costs as opposed to saddling them with costly, front-loaded projects.
Welsh Conservatives oppose excessive raising of council taxes, particularly during this cost-of-living crisis and we continue to urge the Labour Government to step up and address these worrying shortfalls.
Conwy council said it faces potential staff cuts, raising council tax, and slashing services in what has been described as the most difficult financial year in memory.
Meanwhile, some Powys council buildings could be mothballed to save money on energy costs.
Y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu'r Llywodraeth Lafur am ddiffygion yng nghyllideb cynghorau
Mae dau o gynghorau Cymru wedi dweud eu bod yn paratoi i wneud toriadau sylweddol wrth wynebu diffygion yn eu cyllidebau.
Dyma sylwadau Sam Rowlands, AS y Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Dylai cynghorau allu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bobl leol, ond yn lle hynny, maen nhw'n gorfod ymdopi â gorchmynion diddiwedd Llafur o Fae Caerdydd. Mae'r diffyg cyllid ar gyfer cyflwyno'r rhaglen prydau ysgol am ddim yn enghraifft wych o hyn, ac maen nhw’n disgwyl i gynghorau ysgwyddo’r gost.
Rwy’n annog Llafur i ddarparu cymorth ychwanegol wedi'i dargedu, fel y gall cynghorau dalu’r costau cynyddol yn hytrach na disgwyl iddynt ysgwyddo prosiectau costus.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu codi trethi cyngor yn ormodol, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac rydym yn parhau i annog y Llywodraeth Lafur i ddod i’r adwy ac i ysgwyddo’r diffygion ofnadwy hyn.
Dywedodd cyngor Conwy y gallai wynebu diswyddo staff, codi’r dreth gyngor, a thorri’n ôl ar wasanaethau yn sgil y sefyllfa sydd wedi ei disgrifio fel y flwyddyn ariannol anoddaf mewn cof.
Yn y cyfamser, hwyrach y gadewir rhai o adeiladau cyngor Powys yn segur i arbed arian ar gostau ynni.