All six local authorities in North Wales have committed to offering safe havens to at-risk Afghan refugees fleeing their homeland.
The pledge came after Prime Minister Boris Johnson promised that up to 20,000 Afghans would be given refuge in the UK following the Taliban's armed takeover.
Commenting, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government, Sam Rowlands MS said:
In this troubling situation, I’m proud to see councils all across Wales step up to the plate and offer safe homes at a time when these refugees need our support more than ever.
We have a proud history of welcoming those fleeing persecution or oppression and this move, as part of the Afghanistan Citizens’ Resettlement Scheme, just underlines that commitment.
Wales will have a significant role in this resettlement scheme and it’s vital that local authorities play their part.
Gogledd Cymru yn cynnig cartrefi diogel i ffoaduriaid o Affganistan
Mae pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi ymrwymo i gynnig hafan ddiogel i ffoaduriaid mewn perygl sy’n ffoi o’u mamwlad yn Affganistan.
Mae’r ymrwymiad yn dilyn addewid Prif Weinidog San Steffan, Boris Johnson, y bydd y DU yn rhoi lloches i hyd at 20,000 o bobl sydd wedi ffoi o Affganistan ar ôl i’r Taliban gipio grym yno.
Meddai Sam Rowland AS, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Mae’r sefyllfa bresennol yn peri gofid mawr, ac mae’n dda gweld cynghorau ledled Cymru yn cynnig cartrefi diogel ar adeg pan fo angen ein cymorth yn fwy nag erioed ar y ffoaduriaid hyn.
Mae gennym hanes hir o groesawu pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth neu orthrwm, ac mae’r datblygiad hwn, sy’n rhan o Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, yn tanlinellu’r ymrwymiad.
Bydd Cymru yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at y cynllun adsefydlu ac mae’n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn cyfrannu at y broses.