Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging the Welsh Government to urgently get round the table with GP’s to discuss their new contract.
Mr Rowlands, Shadow Health Secretary, was commenting in the Senedd during an exchange with Cabinet Secretary for Health and Social Care, Jeremy Miles.
He said:
It's clear that GP practices are under even more pressure thanks to the Labour Government's increase on national insurance contributions, which is a tax increase on working people and businesses. Indeed, a GP in this place last night explained that that national insurance increase alone to his practice is going to cost an extra £50,000 a year .
The British Medical Association have warned that this measure risks undermining the financial stability of general practice and the quality of patient care that they can provide.
It's pretty clear that many practices will be unable to afford the national insurance increases that have been chosen to be put in place by the Labour Government in Westminster.
Now I understand from speaking to GPs that they believe that the offer that you're making to them at the moment is wholly inadequate and shows disregard for the longstanding issues and pressures they continually raise with myself and Members across the Chamber, and the ballot they have on the offer at the moment is likely to be rejected.
Jeremy Miles said he was disappointed that the general medical services contract negotiations this year have concluded without a resolution, but hoped there would be an opportunity to continue those discussions.
Mr Rowlands added:
Labour’s excuses won’t wash; they’ve betrayed GPs as they face immense pressures.
After 100 Welsh GP closures in just over a decade, the last thing they needed was a jobs tax hike from the Labour UK Government in their budget.
The Welsh Conservatives want to see better long-term planning from the Labour Welsh Government that invests properly in primary care and for them to join us in our opposition to Rachel Reeves’ employer national insurance rise.
Sam Rowlands AS yn mynegi pryder ynghylch contract meddygol newydd i feddygon teulu yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog Llywodraeth Cymru i ymgynnull o gwmpas y bwrdd gyda meddygon teulu ar frys i drafod eu cytundeb newydd.
Roedd Mr Rowlands, Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid, yn gwneud ei sylwadau yn y Senedd, yn ystod trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.
Dywedodd:
Mae'n amlwg fod meddygfeydd dan fwy o bwysau nag erioed diolch i'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol gan y Llywodraeth Lafur, sydd, fel y byddech yn ei gydnabod rwy'n siŵr, yn godiad treth ar weithwyr a busnesau. Yn wir, esboniodd meddyg teulu yn y lle hwn neithiwr fod y cynnydd yswiriant gwladol ar ei ben ei hun yn mynd i gostio £50,000 yn ychwanegol y flwyddyn i'w bractis.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio bod y mesur hwn mewn perygl o danseilio sefydlogrwydd ariannol meddygfeydd ac ansawdd y gofal y gallant ei ddarparu i gleifion.
Mae'n eithaf amlwg y bydd llawer o bractisau’n methu fforddio'r cynnydd mewn yswiriant gwladol y dewisodd y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ei weithredu.
Nawr, o siarad â meddygon teulu, rwy'n deall eu bod yn credu bod y cynnig a wnewch iddynt ar hyn o bryd yn gwbl annigonol ac yn dangos diffyg ystyriaeth i'r problemau a'r pwysau hirsefydlog y maent yn gyson yn eu dwyn i fy sylw i ac Aelodau ar draws y Siambr, ac mae'r bleidlais ar y cynnig ar hyn o bryd yn debygol o gael ei wrthod.
Dywedodd Jeremy Miles ei fod yn siomedig fod negodiadau'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol eleni wedi dod i ben heb benderfyniad, ond roedd yn gobeithio y byddai cyfle i barhau gyda’r trafodaethau hynny.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Dydy esgusodion Llafur ddim yn dal dŵr; maen nhw wedi bradychu meddygon teulu wrth iddyn nhw wynebu pwysau aruthrol.
Ar ôl i 100 o feddygfeydd teulu yng Nghymru gau mewn ychydig dros ddegawd, y peth olaf oedd pawb ei angen oedd codiad treth ar swyddi gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chyllideb.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld gwell cynllunio hirdymor gan Lywodraeth Lafur Cymru – cynllunio sy'n buddsoddi'n iawn mewn gofal sylfaenol - ac am iddyn nhw ymuno â ni yn ein gwrthwynebiad i gynnydd Rachel Reeves yn yswiriant gwladol cyflogwyr.