Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed work to support a haven for nature and communities on the Clwydian Range.
Work is currently underway by the Clwydian Range & Dee Valley National Landscape team, in conjunction with Denbighshire County Council, to develop this area.
Mr Rowlands, a keen supporter of the environment and the countryside said:
I am always happy to support and promote any developments which ultimately help to enhance and improve this beautiful part of North Wales which is popular with local people and visitors alike.
It is absolutely vital that we look after our habitats and make sure that our woodlands and hedgerows continue to thrive.
It is great to see all the work which is being carried out in this area by rangers and volunteers from the surrounding communities to help create new diverse, species-rich habitats.
Nearly 18,000 native, broadleaved trees have been planted at Moel y Plâs, near Llanarmon yn Iâl, and works are underway to restore moorland, improve ffridd, create wetland habitat and maintain woodlands (including mixed native broadleaved, upland oak woodland and a wet woodland coppice).
This development is part of the Council’s work to tackle the Climate Change and Ecological Emergency declared in 2019 and its drive to become a Net Carbon Zero and more Ecologically Positive local authority by 2030.
For this project, woodland and hedgerow creation has been designed to improve connectivity between existing surrounding habitat as wildlife corridors.
The woodland creation project has received funding out of an £800,000 grant awarded to Denbighshire County Council from the UK Government.
Alongside the current site set-up and leading volunteer events, the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape ranger team will continue to manage the site in the long term as part of its role to ensure that the environment of the area of outstanding natural beauty is improved and protected and that the land is made more accessible.
To support the wellbeing benefits for visitors, rangers will maintain accessibility along Rights of Way to assist walkers using the Offa’s Dyke National Trail and local footpaths that run through the site.
Stiles are being upgraded to kissing gates with easy-access latches and larger boxes in line with the National Landscape objectives to make the outdoors a more inclusive and accessible space to improve community wellbeing and visitor experience.
Boundary fencing has also been replaced to ensure it is livestock-proof ready for seasonal grazing on the site.
Sam Rowlands AS yn cefnogi datblygiad i gefnogi natur leol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu gwaith i gefnogi hafan i fyd natur a chymunedau ar Fryniau Clwyd.
Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gan dîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych, i ddatblygu'r ardal hon.
Meddai Mr Rowlands, sy’n frwd o blaid yr amgylchedd a chefn gwlad:
Rwyf bob amser yn hapus i gefnogi a hyrwyddo unrhyw ddatblygiadau sydd yn y pen draw yn helpu i wella'r rhan hardd hon o’r Gogledd sy'n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gofalu am ein cynefinoedd ac yn sicrhau bod ein coetiroedd a'n gwrychoedd yn parhau i ffynnu.
Mae'n wych gweld yr holl waith sy'n cael ei wneud yn y maes hwn gan geidwaid a gwirfoddolwyr o'r cymunedau cyfagos i helpu i greu cynefinoedd newydd amrywiol yn llawn rhywogaethau.
Plannwyd bron i 18,000 o goed llydanddail brodorol ym Moel y Plas, ger Llanarmon yn Iâl, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i adfer rhostir, gwella ffridd, creu cynefin gwlyptir a chynnal coetiroedd (gan gynnwys coed llydanddail brodorol cymysg, coetir derw yr ucheldir a choedlan coetir gwlyb).
Mae'r datblygiad hwn yn rhan o waith y Cyngor i fynd i'r afael â'r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a'i ymgyrch i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net a mwy ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.
Ar gyfer y prosiect hwn, mae gwaith creu coetiroedd a gwrychoedd wedi'i gynllunio i wella cysylltedd rhwng y cynefin presennol cyfagos fel coridorau bywyd gwyllt.
Mae'r prosiect creu coetir wedi derbyn cyllid o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.
Ochr yn ochr â sefydlu'r safle presennol ac arwain digwyddiadau gwirfoddoli, bydd tîm Ceidwaid Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli'r safle yn yr hirdymor fel rhan o'u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a'i ddiogelu a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.
Er mwyn cefnogi'r manteision lles i ymwelwyr, bydd ceidwaid yn cynnal hygyrchedd ar hyd Hawliau Tramwy i gynorthwyo cerddwyr sy'n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a llwybrau troed lleol sy'n rhedeg drwy'r safle.
Mae camfeydd yn cael eu huwchraddio i gatiau moch gyda chlicedi hawdd eu cyrraedd a blychau mwy yn unol ag amcanion y Dirwedd Genedlaethol i wneud yr awyr agored yn lle mwy cynhwysol a hygyrch i wella lles cymunedol a phrofiad ymwelwyr.
Mae ffensys newydd wedi’u gosod ar hyd y ffiniau hefyd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer pori tymhorol ar y safle.