Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has taken on a new role within the Welsh Conservative group in the Senedd.
Mr Rowlands has been named as the Shadow Cabinet Secretary for Finance by Clwyd West MS, Darren Millar, the new leader of the Welsh Conservatives in the Senedd.
Mr Rowlands, who is also the Policy Director for the Welsh Conservatives, has moved from the Shadow Health portfolio.
He said:
I am delighted to take on the role of Shadow Cabinet Secretary for Finance and retain my role as Policy Director for the Welsh Conservatives.
In my new role I will be shadowing former First Minister Mark Drakeford, who made a return to the Welsh Labour front bench under Eluned Morgan’s leadership.
I look forward to working with our new leader, Darren Millar, and challenging Mark Drakeford to focus on prioritising front line services rather than vanity projects such as Senedd expansion and the default 20mph speed limit.
Sam Rowlands AS yn cymryd yr awenau fel Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi ymgymryd â rôl newydd o fewn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Mae Mr Rowlands wedi cael ei enwi'n Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid gan AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Mae Mr Rowlands, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Polisi i'r Ceidwadwyr Cymreig, wedi symud o bortffolio Iechyd yr Wrthblaid.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid a chadw fy rôl fel Cyfarwyddwr Polisi i'r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn fy rôl newydd, byddaf yn cysgodi'r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford, a ddychwelodd i fainc flaen Llafur Cymru o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n harweinydd newydd, Darren Millar, a herio Mark Drakeford i ganolbwyntio ar flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen yn hytrach na phrosiectau disylwedd fel ehangu'r Senedd a'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya.