Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on the Welsh Government to look at fairer funding for local services in North Wales.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Finance has hit out at the draft Welsh Local Government settlement for 2025/26.
Mr Rowlands said:
I was really disappointed to hear the proposed funding settlement for local councils. Two thirds of North Wales councils are set to receive below average increases to their funding settlements, with councils in South Wales receiving more investment. Undoubtedly this will mean local ratepayers will face significant Council Tax increases, whilst seeing much valued local services cut.
North Wales Council Leaders have expressed their concern over the draft settlement and I echo their sentiments. Local authorities, which fund social care, schools, bin collections, libraries and other services, continue to face rising demands for services.
We are also still waiting for some clarity from the Welsh Labour Government about whether the increase costs incurred through the Chancellor’s National Insurance rise will hit council budgets directly.
I would urge the Welsh Government to take another look at what they are proposing and make sure that North Wales isn’t overlooked.
The settlement determines the money Wales’ 22 local authorities will receive to fund core services for the next year.
The draft settlement shows that councils in North Wales are set to receive an average funding increase of 3.8%, whilst councils in South Wales can expect an extra 4.5%.
Sam Rowlands AS yn beirniadu setliad drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau lleol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gyllid tecach ar gyfer gwasanaethau lleol yn y Gogledd.
Mae Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid, wedi beirniadu setliad drafft Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer 2025/26.
Meddai Mr Rowlands:
Roeddwn i’n siomedig iawn o glywed y setliad ariannol arfaethedig ar gyfer cynghorau lleol. Mae disgwyl i ddwy ran o dair o gynghorau’r Gogledd dderbyn codiadau is na'r cyfartaledd i'w setliadau cyllido, gyda chynghorau yn y De yn derbyn mwy o fuddsoddiad. Heb os, bydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr lleol yn wynebu cynnydd sylweddol yn y Dreth Gyngor, tra'n gweld llawer o wasanaethau lleol gwerthfawr yn cael eu cwtogi.
Mae Arweinwyr Cyngor Gogledd Cymru wedi mynegi eu pryder ynghylch y setliad drafft ac rwy'n ategu eu sylwadau. Mae awdurdodau lleol, sy'n ariannu gofal cymdeithasol, ysgolion, casgliadau sbwriel, llyfrgelloedd a gwasanaethau eraill, yn parhau i wynebu galwadau cynyddol am wasanaethau.
Rydyn ni hefyd yn dal i aros am rywfaint o eglurder gan Lywodraeth Llafur Cymru ynghylch a fydd y cynnydd yn y costau a ddaw yn sgil cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol, a gyhoeddwyd gan y Canghellor, yn taro cyllidebau cynghorau yn uniongyrchol.
Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar yr hyn y maen nhw’n ei gynnig a sicrhau nad yw’r Gogledd yn cael ei anwybyddu.
Mae'r setliad yn pennu'r arian y bydd 22 awdurdod lleol Cymru yn ei dderbyn i ariannu gwasanaethau craidd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r setliad drafft yn dangos y bydd cynghorau yn y Gogledd yn derbyn cynnydd ariannol cyfartalog o 3.8%, gyda chynghorau yn y De yn gallu disgwyl 4.5% yn ychwanegol.