Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents looking to progress their careers to attend a jobs fair being held in Wrexham next week.
Mr Rowlands is supporting Wrexham Communities for Work Plus in conjunction with DWP who are once again holding the event following last year’s successful jobs fair.
He said:
I am pleased to promote this event which not only helps employers looking to recruit but also offers excellent opportunities for those looking for a new or a change of career.
The event gives genuine job seekers looking for a career the opportunity to talk to prospective local employers and discuss their requirements in various fields across the region.
It is well worth going along to explore the wide varieties of jobs available if you either want a new career or looking for a change.
The Wrexham Jobs Fair will be held in Wrexham Memorial Hall (Waterworld car park) on Wednesday, January 22, 10am to 2pm.
This jobs fair will be for anyone interested in a job, change of career or progression across Wrexham and neighbouring counties.
Staff will be on hand to offer support with applications, CVs, interview skills etc and the day will be a fantastic opportunity to meet employers in person and discover new job openings across the region.
Everyone is welcome to attend, and to make sure you get the most out of your visit please bring along some copies of your CV.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ffair swyddi yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr sydd am gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd i ymweld â ffair swyddi sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam yr wythnos nesaf.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam ar y cyd â'r DWP sydd unwaith eto'n cynnal y digwyddiad yn dilyn ffair swyddi lwyddiannus y llynedd.
Meddai:
Rwy'n falch o hyrwyddo'r digwyddiad hwn sydd nid yn unig yn helpu cyflogwyr sydd am recriwtio ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd ardderchog i'r rhai sydd eisiau gyrfa newydd neu newid gyrfa.
Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i geiswyr swyddi sy'n chwilio am yrfa i siarad â darpar gyflogwyr lleol a thrafod eu gofynion mewn meysydd amrywiol ar draws y rhanbarth.
Mae'n werth mynd draw i weld yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael os ydych chi naill ai eisiau gyrfa newydd neu awydd newid.
Bydd Ffair Swyddi Wrecsam yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Wrecsam (maes parcio'r Byd Dŵr) ddydd Mercher, 22 Ionawr, o 10am i 2pm.
Bydd y ffair swyddi hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn swydd, newid gyrfa neu gamu ymlaen ar draws Wrecsam a siroedd cyfagos.
Bydd staff wrth law i gynnig cymorth gyda cheisiadau, CVs, sgiliau cyfweld ac ati a bydd y diwrnod yn gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a chanfod swyddi newydd ar draws y rhanbarth.
Mae croeso i bawb, ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad, dewch â chopïau o'ch CV gyda chi.