Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on the Welsh Government to develop a comprehensive plan for establishing a dental school in North Wales.
Mr Rowlands, Shadow Finance Minister, who has repeatedly highlighted the lack of NHS dentists in his region, was speaking in the Senedd, during a member’s debate, which he co-sponsored, calling for the establishment of a dentistry school in Bangor.
He said:
We know dental services in North Wales are broken and they need to be fixed. Patients are facing unacceptable delays and access to essential care and families who are then accessing private treatment are struggling to afford that treatment and, sadly, it's those who are most vulnerable in our communities who are bearing the brunt of this crisis, and it's simply not acceptable.
Part of the issue may be around the dental contracts. We do know in North Wales a particular issue has been around recruitment and retention, particularly for the newly qualified or for dentists seeking to qualify themselves.
It's pretty much common sense, really. People tend to hang around the place where they study, there's a lot of evidence to suggest that, and especially when people set up roots with family or loved ones, that's where they tend to be. And there's a challenge for us in North Wales to recruit and retain those qualified dentists. That's why a long-term look at this is absolutely essential
The benefits of such a proposal, in particular, is something for local people, who locally want to study dentistry, and particularly with a Welsh language opportunity perhaps within this as well. We've seen the benefits of that with the establishment of the medical school in Bangor, and we've heard of the real positive feedback of that for many young people.
There is also opportunity within this is around economic growth as well. We know that where university-level qualifications are enhanced, that provides a massive stimulus for economic growth.
Investment in a dental school in North Wales would undoubtedly stimulate, at least in small part, the local economy attracting further investment, attracting further research and further opportunity in North Wales.
I appreciate that there will be challenges with such a proposal, but I hope that the potential benefits will be recognised and understood to be greater than the challenges that may present themselves for the region, because we come back to this. We've got to think long term.
We've got to invest in the future of the workforce and, ultimately, the health of residents in North Wales, who are unable to access those services, the three-tier services which exists at the moment, and that is not acceptable.
The Cabinet Secretary Health and Social Care, Jeremy Miles said expanding resources to increase education and training of members of the dental team in this way would take obviously significant investment, and the ongoing pressures on the health budget mean that it was not possible to fund a project of this sort at this time.
The motion was agreed with For: 29, Against: 0, Abstain: 17.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwadau am ysgol ddeintyddol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid, sydd wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at ddiffyg deintyddion y GIG yn ei ranbarth, yn siarad yn y Senedd yn ystod dadl aelodau a gyd-noddwyd ganddo, yn galw am sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor.
Meddai:
Gwyddom fod gwasanaethau deintyddol yn y gogledd mewn cyflwr gwael a bod angen eu gwella. Mae cleifion yn wynebu oedi annerbyniol ac mae mynediad at ofal hanfodol yn prinhau, fan lleiaf. Ac fel y clywsom eisoes, mae teuluoedd sydd wedyn yn cael triniaeth breifat yn ei chael hi'n anodd fforddio'r driniaeth honno, ac yn anffodus, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy'n wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn, ac nid yw'n dderbyniol.
Gallai'r broblem fod yn rhannol gysylltiedig â'r contractau deintyddol. Fe wyddom fod recriwtio a chadw staff wedi bod yn broblem benodol yn y gogledd, yn enwedig deintyddion sydd newydd gymhwyso neu ddeintyddion sy'n ceisio cymhwyso.
Synnwyr cyffredin yw hyn a dweud y gwir. Mae pobl yn tueddu i aros yn y man lle maent yn astudio, mae llawer o dystiolaeth i awgrymu hynny, ac yn enwedig pan fydd pobl yn bwrw gwreiddiau gyda theulu neu anwyliaid, dyna ble maent yn tueddu i fod. Ac mae recriwtio a chadw'r deintyddion cymwys hynny'n her i ni yn y gogledd. Dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol inni edrych ar hyn yn hirdymor.
Mae rhai o’r manteision eisoes wedi’u hamlinellu. Hoffwn dynnu sylw at un neu ddau o fanteision cynnig o’r fath. Mae’r cyntaf, yn fwyaf arbennig, yn rhywbeth i bobl leol—pobl sydd am astudio deintyddiaeth yn lleol, ac yn enwedig gyda chyfle posibl i wneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Rydym wedi gweld manteision hynny gyda sefydlu’r ysgol feddygol ym Mangor, ac rydym wedi clywed yr adborth gwirioneddol gadarnhaol am hynny i lawer o bobl ifanc.
Rwy'n credu bod cyfle a fyddai'n deillio o hyn yn ymwneud â thwf economaidd. Lle ceir mwy o gymwysterau lefel prifysgol, gwyddom fod hynny'n ysgogiad enfawr ar gyfer twf economaidd.
A byddai buddsoddi mewn ysgol ddeintyddol yn y gogledd heb os yn ysgogi, i raddau o leiaf, yr economi leol gan ddenu buddsoddiad pellach, denu ymchwil pellach a chyfleoedd pellach yn y gogledd.
Nawr, rwy’n derbyn y bydd heriau gyda chynnig o’r fath, ond rwy'n gobeithio y cydnabyddir ac y deellir y bydd y manteision posibl yn fwy na’r heriau a all godi ar gyfer y rhanbarth, gan ein bod yn dod yn ôl at hyn. Mae'n rhaid inni feddwl yn hirdymor.
Mae'n rhaid inni fuddsoddi yn nyfodol y gweithlu, ac yn y pen draw, yn iechyd trigolion gogledd Cymru, nad ydynt ar hyn o bryd, fel y dywedais, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny, y gwasanaethau tair haen sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai ehangu adnoddau i gynyddu addysg a hyfforddiant aelodau o'r tîm deintyddol fel hyn yn golygu buddsoddiad sylweddol, a bod pwysau parhaus ar y gyllideb iechyd yn golygu nad oedd modd ariannu prosiect o'r math hwn ar hyn o bryd.
Derbyniwyd y cynnig, gydag: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 17.