Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on the Welsh Government to invest money to improve the road network in his region.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Finance Minister asked the First Minister, Eluned Morgan, when investment would be made on roads in North Wales.
He said:
We know, after many years, the Heads of the Valleys road here in South Wales is reaching completion, as the most expensive road in Wales, around £2 billion-worth of spending.
My residents in North Wales are asking where is the £2 billion-worth of spending on roads up in North Wales.
We know that there’s a huge opportunity to unleash the economy of North Wales through investment on the A55, investment on the A483 around Wrexham in particular, and investment on a third crossing over to Ynys Môn to meet the needs of people on the island as well.
First Minister, could you provide clarity as to when North Wales is going to receive the levels of investment needed to unleash the economy that is so desperately needed.
Eluned Morgan said their current list of strategic road network infrastructure improvements was contained in the national transport delivery plan and they were investing in the road infrastructure in North Wales.
Mr Rowlands added:
It seems to me that every time we raise this issue about spending money on our significant roads in North Wales, the A55, the gateway to the region and the A483 we get the same answer yet we still wait for improvements to happen.
Promises of funding to local authorities to repair potholes also needs to be delivered on, so people in North Wales can see a positive change to road quality.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o fuddsoddiad yn ffyrdd y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi arian i wella'r rhwydwaith ffyrdd yn ei ranbarth.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, pryd y byddai buddsoddiad yn cael ei wneud yn ffyrdd y Gogledd.
Meddai:
Rydym ni'n gwybod, ar ôl blynyddoedd lawer, bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yma yn ne Cymru ar fin cael ei chwblhau, fel y ffordd ddrytaf yng Nghymru—gwerth tua £2 biliwn o wariant.
Mae fy nhrigolion yn y Gogledd yn gofyn ble mae'r gwerth £2 biliwn o wariant ar ffyrdd i fyny yn y gogledd.
Rydym ni'n gwybod bod cyfle enfawr i ollwng y ffrwyn ar economi'r gogledd drwy fuddsoddiad ar yr A55, buddsoddiad ar yr A483 o amgylch Wrecsam yn benodol, a buddsoddiad ar drydedd groesfan i Ynys Môn i ddiwallu anghenion pobl ar yr ynys hefyd.
Felly, Prif Weinidog, a allech chi roi eglurder ynghylch pryd y bydd y gogledd yn derbyn y lefelau buddsoddiad sydd eu hangen i ollwng y ffrwyn ar yr economi sydd ei hangen mor daer?
Dywedodd Eluned Morgan bod eu rhestr bresennol o welliannau seilwaith strategol i’r rhwydweithiau ffyrdd wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol a'u bod yn buddsoddi yn seilwaith ffyrdd y Gogledd.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae'n ymddangos i mi, bob tro y byddwn yn codi'r mater hwn am wario arian ar ein ffyrdd pwysig yng Ngogledd Cymru, yr A55, y porth i'r rhanbarth a'r A483, rydym yn cael yr un ateb ac eto'n dal i aros am welliannau.
Mae angen gwireddu addewidion o gyllid i awdurdodau lleol i drwsio tyllau hefyd, fel bod pobl y Gogledd yn gallu gweld newid cadarnhaol i ansawdd y ffyrdd.