Sam Rowlands MS for North Wales is backing a recruitment campaign by one of the area’s biggest employers.
Airbus, an international aircraft manufacturer with a factory based in Broughton, has recently launched their early careers recruitment campaign.
Mr Rowlands said:
This is a wonderful opportunity for those interested in a career within the aviation industry. Airbus is one of the biggest employers in my region of North Wales and employs more than 5,000 staff at the Broughton site.
Apart from the number of people working in the factory this also has a knock-on effect for the local economy. It is also good news to see the company is investing in future generations.
There are over 400 career opportunities on offer including apprenticeships, graduate schemes and internships, with many of them based at the Flintshire site.
Airbus factory produces the wings for all its aircraft including the A380 superjumbo and is recognised all over the world as providing first class service and machines.
The recruitment campaign is now up and running and anyone interested is urged to apply as soon as possible.
For more details:-
Apprentices:
https://www.airbus.com/careers/search-and-apply/search-for-vacancies.html?textsearch=apprentice
Graduates:
https://www.airbus.com/careers/search-and-apply/search-for-vacancies.html?textsearch=graduate
Internships:
Sam Rowlands AS yn annog etholwyr i wneud cais am yrfa gydag Airbus ym Mrychdyn
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch recriwtio gan un o gyflogwyr mwyaf yr ardal.
Yn ddiweddar fe wnaeth Airbus, y gwneuthurwr awyrennau rhyngwladol sydd â ffatri ym Mrychdyn, lansio eu hymgyrch recriwtio gyrfaoedd cynnar.
Meddai Mr Rowlands:
Dyma gyfle gwych i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant awyrennau. Airbus yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn fy rhanbarth yn y Gogledd ac mae’n cyflogi mwy na 5,000 o staff ar safle Brychdyn.
Ar wahân i nifer y bobl sy’n gweithio yn y ffatri, mae hyn yn cael effaith ddilynol hefyd ar yr economi leol. Mae hefyd yn newyddion da gweld y cwmni yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.
Mae dros 400 o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys prentisiaethau, cynlluniau i raddedigion ac interniaethau, gyda llawer ohonynt wedi’u lleoli ar y safle yn Sir y Fflint.
Mae ffatri Airbus yn cynhyrchu’r adenydd ar gyfer ei holl awyrennau gan gynnwys y Superjumbo A380 ac mae’n cael ei gydnabod yn fyd-eang am ddarparu gwasanaeth a pheiriannau gyda’r gorau yn y byd.
Mae’r ymgyrch recriwtio ar waith bellach ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Am ragor o fanylion:-
Prentisiaid:
https://www.airbus.com/careers/search-and-apply/search-for-vacancies.ht…
Graddedigion:
https://www.airbus.com/careers/search-and-apply/search-for-vacancies.ht…
Interniaethau:
https://www.airbus.com/careers/search-and-apply/search-for-vacancies.ht…