Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging residents to back plans to revert 20mph roads back to 30 in Wrexham.
Mr Rowlands, a long-time critic of the introduction of the 20mph default speed limit, which was introduced in September 2023, is calling on his constituents to support Wrexham Council's new consultation to remove 20mph from main roads across Wrexham.
He said:
Everybody knows how I feel about this nonsensical and crazy law which made many of our roads 20mph when almost all of them quite clearly could remain at 30.
Almost half a million people in Wales signed a petition against this implementation, however, this was totally ignored by Welsh Government and they pressed ahead. Not considering the fall out for the public, services, businesses and the economy.
The whole exercise has been a complete and utter shambles from the beginning and the money spent on this ill-advised and quite frankly bonkers idea, should have been spent on our NHS, education and local government services.
Recently released figures from the BBC show that more than 85.000 drivers were caught driving at over 20mph in Wales with two roads in North East Wales in the top 5.
This continued campaign against motorists is nothing short of scandalous and the sooner steps are taken to redress the balance the better.
People in Wrexham now have the chance to have their say on this issue and try to undo the damage this ludicrous idea is continuing to cause for my constituents in North Wales,
I have recently completed and expressed my support for Wrexham Council's new consultation to remove 20mph from main roads across Wrexham and I urge everyone to do the same.
Anyone who wants to show their support should email [email protected] with the names of the roads by January 31st.
Click the link to see which roads are up for consultation - www.wrexham.gov.uk/service/county-borough-wrexham-welsh-government-30mph-scheme-various-locations-30-mph-speed-limit
Sam Rowlands AS yn dal i ymgyrchu yn erbyn terfynau 20mya ar ffyrdd y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn annog trigolion i gefnogi cynlluniau i wyrdroi ffyrdd 20mya yn ôl i rai 30 yn ardal Wrecsam.
Mae Mr Rowlands, beirniad hirdymor y terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd ym mis Medi 2023, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi ymgynghoriad newydd Cyngor Wrecsam i dynnu’r terfyn 20mya oddi ar brif ffyrdd ar hyd a lled Wrecsam.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod sut rwy'n teimlo am y gyfraith hurt a gwallgo hon a drodd lawer o'n ffyrdd yn rhai 20mya, pan allai bron pob un ohonyn nhw fod wedi aros yn rhai 30mya.
Fe wnaeth bron i hanner miliwn o bobl lofnodi deiseb yn erbyn y cam hwn, ond fe gafodd ei anwybyddu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru cyn iddyn nhw fwrw iddi. Heb sôn am y goblygiadau i'r cyhoedd, i wasanaethau, i fusnesau ac i’r economi.
Mae'r ymarfer cyfan wedi bod yn draed moch o'r dechrau a dylai'r arian a wariwyd ar y syniad byrbwyll hwn fod wedi'i wario ar ein gwasanaethau GIG, addysg a llywodraeth leol.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y BBC yn dangos bod dros 85,000 o yrwyr wedi cael eu dal yn gyrru dros 20mya yng Nghymru, gyda dwy lôn yn y Gogledd-ddwyrain yn y 5 uchaf.
Dydy’r ymgyrch barhaus hon yn erbyn modurwyr yn ddim llai na sgandal, felly gorau po gyntaf y bydd camau'n cael eu cymryd i unioni'r mater hwn.
Mae gan bobl Wrecsam rŵan y cyfle i ddweud eu dweud ar y mater hwn a cheisio dadwneud y difrod y mae'r syniad chwerthinllyd hwn yn parhau i'w achosi i fy etholwyr yn y Gogledd.
Yn ddiweddar, mi wnes i gwblhau a mynegi fy nghefnogaeth i ymgynghoriad newydd Cyngor Wrecsam ar dynnu 20mya oddi ar brif ffyrdd ledled y sir ac rwy'n annog pawb i wneud yr un peth.
Dylai unrhyw un sydd am ddangos eu cefnogaeth e-bostio [email protected] gydag enwau'r ffyrdd erbyn 31 Ionawr.
Cliciwch ar y ddolen i weld pa ffyrdd sy'n rhan o'r ymgynghoriad - www.wrecsam.gov.uk/service/gorchymyn-cynllun-30mya-llywodraeth-cymru-lleoliadau-amrywiol-terfyn-cyflymder-30-mya