Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging residents in Denbighshire to read more.
Mr Rowlands, a keen supporter of the written word is supporting Denbighshire Libraries who are challenging readers to read 25 books in 2025.
He said:
I am a great supporter of encouraging people of all ages to read more and always back the Summer Reading Challenge for children so I am delighted to promote this new initiative for adults.
Just taking time to sit and read a book can be very relaxing and definitely something I would urge everyone to do.
I also like the idea that readers will be encouraged to try and read different types of books. I think it is a great initiative and I would recommend people take up the challenge.
The ’25 Book Challenge’ will encourage readers to step out of their comfort zone and try reading books from 25 different genres and themes in the form of book bingo.
Themes include prizewinning novels, books set in a different country and books by a Welsh author.
Bingo sheets can be collected from local Libraries and readers will win prizes after reading 10, 20 and 25 books. Incentives include a bookmark and a library tote bag (Incentives available while stocks last).
Books can be read in a variety of formats, including physical books or audiobooks borrowed from the Library, or eBooks and eAudiobooks downloaded for free via the Borrowbox app.
There is evidence to show that reading for as little as six minutes a day can reduce stress levels by up to 68%. Reading can also help get a better night’s sleep, and reduce tension.
Readers can sign up at their local Library.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Her Ddarllen Oedolion
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog trigolion Sir Ddinbych i ddarllen mwy.
Mae Mr Rowlands, cefnogwr brwd darllen y gair ysgrifenedig, yn cefnogi Llyfrgelloedd Sir Ddinbych sy'n herio darllenwyr i ddarllen 25 o lyfrau yn 2025.
Meddai:
Rwy'n hoffi annog pobl o bob oed i ddarllen mwy a chefnogi Sialens Ddarllen yr Haf i blant bob blwyddyn, felly rwy'n falch iawn o hyrwyddo'r fenter newydd hon i oedolion.
Gall neilltuo amser i eistedd a darllen llyfr ymlacio rhywun ac mae’n bendant yn rhywbeth y byddwn yn annog pawb i'w wneud.
Rydw i hefyd yn hoffi'r syniad y bydd darllenwyr yn cael eu hannog i geisio darllen gwahanol fathau o lyfrau. Mae’n fenter wych a byddwn yn argymell pobl i roi cynnig ar y sialens.
Bydd 'Sialens 25 Llyfr' yn annog darllenwyr i gamu allan o'u parth cysur a rhoi cynnig ar ddarllen llyfrau o 25 o wahanol genres a themâu ar ffurf bingo llyfrau.
Mae'r themâu yn cynnwys nofelau arobryn, llyfrau wedi’u gosod mewn gwlad wahanol a llyfrau gan awdur o Gymru.
Gellir casglu’r taflenni bingo o lyfrgelloedd lleol a bydd darllenwyr yn ennill gwobrau ar ôl darllen 10, 20 a 25 o lyfrau. Mae cymhellion yn cynnwys nod tudalen a bag canfas llyfrgell (Cymhellion ar gael tra’u bod mewn stoc).
Gellir darllen y llyfrau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys llyfrau go iawn neu lyfrau llafar wedi’u benthyg o’r Llyfrgell, neu e-lyfrau ac e-lyfrau llafar wedi’u lawrlwytho am ddim drwy'r ap Borrowbox.
Mae tystiolaeth i ddangos bod darllen am gyn lleied â chwe munud y dydd yn gallu lleihau lefelau straen hyd at 68%. Gall darllen hefyd helpu i gael noson well o gwsg, a lleihau tensiwn.
Gall darllenwyr gofrestru yn eu llyfrgell leol.