Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales supports a campaign to improve the poor survival chances of people diagnosed with less survivable cancers.
Mr Rowlands joined fellow members at an event to highlight at the Senedd Less Survivable Cancers Awareness Week.
Mr Rowlands, a keen supporter of cancer charities and research said:
The survival rates simply aren’t good enough, and for that reason I’m backing the Less Survivable Cancers Taskforce and their calls to improve prospects for people diagnosed with these aggressive cancers.
Data released by the LSCT shows that more than half (61%) of people in Wales diagnosed with a less survivable cancer will die from their disease within one year.
The new analysis of existing cancer registry data shows that the average one year survival for a patient diagnosed with a less survivable cancer in Wales is just 39%. This contrasts sharply with the overall one-year survival rate for all cancers, which is over 70%.
Over 90,000 people are diagnosed with one of the less survivable cancers in the UK every year and they account for nearly half of all common cancer deaths. These cancers are overwhelmingly diagnosed at later stages compared to other cancers. Only 28% of patients are diagnosed at stage 1 or 2, compared to 54% for all cancers. This late-stage diagnosis limits the potential for treatments that could significantly improve survival rates.
Despite their prevalence, the less survivable cancers receive a fraction (16.6%) of research funding of more survivable cancers
Judi Rhys MBE, Chief Executive of Tenovus Cancer Care and Chair of the Less Survivable Cancers Taskforce Wales subgroup, said:
These shocking one year survival statistics are unacceptable and it’s essential that we take urgent action to improve the outcomes for patients diagnosed with these devastating diseases.
The time has come for a national action plan dedicated to less survivable cancers, prioritising greater awareness, faster diagnosis and more research into screening and treatment options.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i wella cyfraddau goroesi gwael pobl sy'n cael diagnosis o ganserau llai goroesadwy.
Ymunodd Mr Rowlands â chyd-aelodau mewn digwyddiad i dynnu sylw yn y Senedd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Ganser Llai Goroesadwy.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n cefnogi elusennau ac ymchwil canser yn frwd:
Yn syml, dydy’r cyfraddau goroesi yn ddigon da, ac am y rheswm hwnnw rwy'n cefnogi'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy a'u galwadau i wella'r rhagolygon i bobl sy'n cael diagnosis o'r canserau ymosodol hyn.
Mae data a ryddhawyd gan LSCT yn dangos y bydd mwy na hanner (61%) y bobl yng Nghymru sy'n cael diagnosis o ganser llai goroesadwy yn marw o'u clefyd o fewn blwyddyn.
Mae'r dadansoddiad newydd o ddata'r gofrestrfa ganser bresennol yn dangos mai dim ond 39% yw'r gyfradd oroesi am flwyddyn ar gyfartaledd i glaf sydd wedi cael diagnosis o ganser llai goroesadwy yng Nghymru. Mae hyn yn gyferbyniad llwyr â'r gyfradd oroesi blwyddyn gyffredinol ar gyfer pob canser, sydd dros 70%.
Mae 90,000 a mwy o bobl yn cael diagnosis o un o'r canserau llai goroesadwy yn y DU bob blwyddyn, sef bron i hanner yr holl farwolaethau canser cyffredin. Mae'r canserau hyn yn cael eu diagnosio'n ddiweddarach o'u cymharu â chanserau eraill. Dim ond 28% o gleifion sy'n cael diagnosis yng ngham 1 neu 2, o'i gymharu â 54% ar gyfer pob canser. Mae'r diagnosis hwyr hwn yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer triniaethau a allai wella cyfraddau goroesi yn sylweddol.
Er gwaethaf eu mynychder, mae'r canserau llai goroesadwy yn derbyn cyfran lai (16.6%) o gyllid ymchwil canserau â chyfraddau goroesi gwell.
Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus a Chadeirydd is-grŵp Tasglu Canserau Llai Goroesadwy Cymru:
Mae'r ystadegau goroesi blwyddyn brawychus hyn yn annerbyniol ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau brys i wella'r canlyniadau i gleifion sy'n cael diagnosis o'r clefydau ofnadwy hyn.
Mae'r amser wedi dod am gynllun gweithredu cenedlaethol sy'n ymroi i ganserau llai goroesadwy, gan flaenoriaethu mwy o ymwybyddiaeth, diagnosis cyflymach a mwy o ymchwil i opsiynau sgrinio a thriniaeth.