
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to take part in the world’s largest garden wildlife survey.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and the environment said:
I am pleased once again to promote The Royal Society for the Protection of Birds annual Big Garden Birdwatch being held this year between January 24-26.
All you have to do is to spend one hour watching the different birds landing in your garden and write down all the ones you see, record the highest number of species and then upload the information.
This is a fantastic initiative and a great way for all the family to get involved. Last year over 600,000 people took part and it is something I fully support and urge everyone to get involved.
To take part you will need to record all the different species you see either in your garden, local park or from your balcony in one hour, also reporting if you did not see any birds.
Across the UK, over half a million people took part in Big Garden Birdwatch 2024, counting a whopping 9.1 million birds.
House Sparrows took the top spot, but counts of these chirpy birds are down by 60% compared to the first Birdwatch in 1979.
In fact, we’ve lost 38 million birds from UK skies in the last 60 years. With birds facing so many challenges, it’s more important than ever to get involved in the Birdwatch. Every bird you do or don’t count will give the RSPB a valuable insight into how garden birds are faring.
For more information and details about taking part go to Big Garden Birdwatch
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl Gogledd Cymru i gyfri’r adar yn eu gerddi
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gymryd rhan yn arolwg mwya'r byd o fywyd gwyllt.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o fyd natur a'r amgylchedd:
Rwy'n falch unwaith eto o hyrwyddo digwyddiad blynyddol Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB sy'n cael ei gynnal rhwng 24 a 26 Ionawr eleni.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw treulio awr yn gwylio'r adar gwahanol sy'n glanio yn eich gardd a gwneud nodyn o’r rhai rydych chi'n eu gweld, cofnodi'r nifer uchaf o rywogaethau ac yna lanlwytho'r wybodaeth.
Mae'n fenter wych ac yn ffordd ardderchog i'r teulu cyfan gymryd rhan. Fe wnaeth dros 600,000 o bobl gymryd rhan y llynedd, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi i'r carn ac rwy’n annog pawb i gyfrannu.
I gymryd rhan, bydd angen i chi gofnodi'r holl rywogaethau amrywiol welwch chi naill ai yn eich gardd, parc lleol neu o'ch balconi mewn awr, a dylech nodi os na welsoch chi unrhyw aderyn hefyd.
Ledled y DU, fe wnaeth dros hanner miliwn o bobl gymryd rhan yn Big Garden Birdwatch 2024, a chyfrifwyd 9.1 miliwn o adar.
Adar y to ddaeth i'r brig, er bod eu niferoedd wedi gostwng 60% ers y digwyddiad Birdwatch cyntaf ym 1979.
Yn wir, rydym wedi colli 38 miliwn o adar o awyr y DU yn ystod y 60 mlynedd diwethaf. Gyda chymaint o heriau yn wynebu'r adar, mae'n bwysicach nag erioed cymryd rhan yn achlysur Birdwatch. Bydd pob aderyn rydych chi'n ei gyfrif, neu ddim, yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'r RSPB ar sefyllfa pob rhywogaeth yn ein gerddi.
Am ragor o wybodaeth a manylion cymryd rhan, ewch i Big Garden Birdwatch