
Sam Rowlands MS for North Wales is backing an initiative to help people looking for work.
Mr Rowlands, is supporting the Flint Jobs and Apprenticeship Fair, being held in the town next week and organised by Flint Town Council, in partnership with Job Centre Plus.
He said:
I am pleased to promote this event which will showcase the wide range of careers and job opportunities available in the area for young people and job seekers alike.
It is an excellent initiative particularly for pupils who will have the opportunity to meet with prospective employers and get the right advice on skills and training in various fields.
I am a great supporter of apprenticeships which provide a great way to learn a trade and genuine skills that they can use throughout their working life.
I would urge anyone looking for an apprenticeship or employment to attend.
The event is open to all whether you are looking for a new job, exploring career opportunities or seeking an apprenticeship.
The fair will feature a wide range of organisations, providing attendees with the chance to explore career paths, discover apprenticeship programs, and gather valuable insights into the current job market.
The Flint Jobs and Apprenticeship Fair is taking place on Thursday, February 13, from 3pm-6.30pm at Flint Town Council, in Market Square, Flint.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Ffair Swyddi yn y Fflint
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn cefnogi menter i helpu pobl sy'n chwilio am waith.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Ffair Swyddi a Phrentisiaethau’r Fflint, sy'n cael ei chynnal yn y dref yr wythnos nesaf ac yn cael ei threfnu gan Gyngor Tref y Fflint, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Meddai:
Rwy'n falch o hyrwyddo'r digwyddiad hwn a fydd yn arddangos yr ystod eang o yrfaoedd a chyfleoedd swyddi sydd ar gael yn yr ardal i bobl ifanc a cheiswyr gwaith fel ei gilydd.
Mae'n fenter ardderchog yn enwedig i ddisgyblion a fydd yn cael y cyfle i gwrdd â darpar gyflogwyr a chael y cyngor cywir ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwahanol feysydd.
Rwy'n gefnogwr brwd o brentisiaethau ac maen nhw’n ffordd wych o ddysgu sgiliau masnach a sgiliau go iawn y gallant eu defnyddio gydol eu bywyd gwaith.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am brentisiaeth neu waith i alw heibio.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb, p'un a ydych chi’n chwilio am swydd newydd, yn bwrw golwg ar gyfleoedd gyrfa neu'n chwilio am brentisiaeth.
Bydd y ffair yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau, gan roi cyfle i'r rhai sy'n bresennol ystyried gwahanol lwybrau gyrfa, darganfod rhaglenni prentisiaethau, a chasglu mewnwelediadau gwerthfawr i'r farchnad swyddi bresennol.
Cynhelir Ffair Swyddi a Phrentisiaethau’r Fflint ddydd Iau, 13 Chwefror, rhwng 3pm a 6.30pm yng Nghyngor Tref y Fflint, yn Sgwâr y Farchnad, y Fflint.