Sam Rowlands MS for North Wales, recently saw at first-hand the work of G&M Davies Sawmills based in Llanferres, near Mold.
Mr Rowlands MS said he was delighted to see the success of the firm which operates as the Larch Cladding Company and Happy Horse Bedding.
He said:
I welcomed the opportunity to visit G&M Davies Sawmills at its base in Llanferres, and see at first-hand how successful this farm diversification business has become.
These days more than ever farmers are being encouraged to look at different ways to subsidise their farm income and it was great to see how the sawmill has grown since it was first started 29 years ago.
I was impressed with the whole operation. Not only are they supplying locally sourced Welsh timber which reduces the carbon footprint but they also produce the timber using an eco-friendly biomass boilers.
Their reputation speaks for itself and congratulations must go to them for being awarded the contract to supply timber for a bird habitat at a major tourist attraction, Chester Zoo.
The Larch Cladding Company supplies high quality Welsh grown red larch cladding for buildings, which is much sought after. They also supply Welsh Douglas Fir and Cedar.
From the offcuts they produce Happy Horse bedding, air dried wood chip horse bedding in a distinctive pink branding and from left over wood dust they produce loggett firelighters, so no part of the tree goes to waste.
Sam Rowlands AS yn canmol cwmni lleol am lwyddo yn y diwydiant pren
Yn ddiweddar cafodd Sam Rowlands, AS rhanbarthol Gogledd Cymru, gyfle i fwrw golwg ar waith G&M Davies Sawmills yn Llanferres ger yr Wyddgrug.
Dywedodd Mr Rowlands AS ei fod yn falch iawn o weld llwyddiant y cwmni sy'n gweithredu fel Larch Cladding Company a Happy Horse Bedding.
Dywedodd:
Croesawais y cyfle i ymweld â chwmni G&M Davies Sawmills ar ei safle yn Llanferres, a gweld llwyddiant y busnes arallgyfeirio fferm hwn â’m llygaid fy hun.
Bellach, mae mwy nag erioed o ffermwyr yn cael eu hannog i ystyried ffyrdd gwahanol o ategu incwm eu fferm, ac roedd hi'n braf gweld sut mae'r felin lifio wedi tyfu ers ei sefydlu 29 mlynedd yn ôl.
Mae'r cyfan wedi gwneud cryn argraff arna i. Nid yn unig y maen nhw’n cyflenwi pren o Gymru a dyfir yn lleol ac sydd felly'n lleihau’r ôl troed carbon ond maen nhw hefyd yn cynhyrchu'r pren gyda boeleri biomas ecogyfeillgar.
Mae eu henw da yn siarad drosto'i hun a rhaid eu llongyfarch am ennill contract i gyflenwi pren ar gyfer cynefin adar yn Sw Caer, sy'n atyniad ymwelwyr poblogaidd.
Mae'r Larch Cladding Company yn cyflenwi cladin llarwydd coch o ansawdd uchel a dyfir yng Nghymru ar gyfer adeiladau, ac mae galw mawr amdano. Maen nhw hefyd yn cyflenwi ffynidwydden Douglas a chedrwydden o Gymru.
O'r gweddillion maen nhw'n cynhyrchu Happy Horse Bedding, sarn o sglodion pren wedi'u haersychu sydd â brand pinc unigryw. Maen nhw'n defnyddio unrhyw lwch llif dros ben wedyn i greu tanwyr tân 'loggett', felly does yr un rhan o'r goeden yn mynd yn wastraff.