Sam Rowlands MS for North Wales visits the White House Hotel and Spa in Rhuallt, and finds out more about the challenges facing the hospitality sector.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Senedd’s Cross-Party group on Tourism, said:
I was delighted to call in at the White House Hotel and Spa with Mike Learmond from FSB Wales and find out more about the challenges facing the hospitality sector.
The hotel has recently started to promote itself as a wedding and conference venue and looking around the premises I am sure they will be attracting many more customers.
Not only can they cater for weddings and conferences but they also have a first-class spa on site where you can keep fit, enjoy many different treatments or simply relax in the coffee shop.
The hospitality sector in North Wales was hardest hit during the pandemic and we are clearly not out the woods yet.
Nearly every day we hear about the recruitment problems for hotels, bars and cafes and we really must do more to encourage young people, in particular, to enter this industry.
The family run White House Hotel and Spa is just minutes from the A55 expressway and is a modern fresh wedding venue and one of the best located places to hold conferences and meetings.
Just over 12 months ago the hotel also opened its luxury Spa and Gym which includes a swimming pool and outdoor hydrotherapy.
Sam Rowlands AS yn galw heibio gwesty yn y Gogledd sydd bellach yn hyrwyddo ei hun fel lleoliad priodasau a chynadleddau
Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn ymweld â Gwesty a Spa White House yn Rhuallt, ac yn clywed mwy am yr heriau sy’n wynebu’r sector lletygarwch.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Roeddwn i’n falch iawn o gael galw heibio Gwesty a Sba White House gyda Mike Learmond o FSB Cymru a chlywed mwy am yr heriau sy’n wynebu’r sector lletygarwch.
Yn ddiweddar, mae’r gwesty wedi dechrau hyrwyddo ei hun fel lleoliad priodasau a chynadleddau ac wrth edrych o gwmpas y safle rwy’n sicr y bydd yn denu llawer mwy o gwsmeriaid.
Maen nhw nid yn unig yn gallu darparu ar gyfer priodasau a chynadleddau, ond mae ganddynt hefyd sba gwych ar y safle le gallwch gadw’n heini, mwynhau gwahanol driniaethau neu ymlacio yn y caffi.
Cafodd y sector lletygarwch yn y Gogledd ergyd galed yn ystod y pandemig a dydy pethau’n sicr ddim drosodd eto.
Bob diwrnod bron iawn rydym yn clywed am y problemau recriwtio ar gyfer gwestai, bariau a chaffis ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i annog pobl ifanc, yn arbennig, i ymuno â’r diwydiant hwn.
Dim ond ychydig funudau o’r draffordd A55 y mae Gwesty a Sba teuluol White House ac mae’n lleoliad priodasau modern yn un o’r lleoliadau gorau i gynnal cynadleddau a chyfarfodydd.
Dim ond 12 mis yn ôl agorodd y gwesty hefyd ei Sba a’i Gampfa moethus sy’n cynnwys pwll nofio a hydrotherapi awyr agored.