Clwyd West MS Darren Millar and North Wales MS Sam Rowlands visited Leonard Cheshire’s Eithinog Care Home in Colwyn Bay on Friday to recognise the dedication and hard work of staff throughout the Covid-19 pandemic.
Darren presented awards to: Caren Parry – Outstanding Team Member; Julie Hanson – Outstanding Member of the Care Team, Alysha Miller – Outstanding Member of the Clinical Team, and John Finch and Eric Thomas – Outstanding Members of the Ancillary Team.
Sam Rowlands MS also presented a hamper for staff and a coffee machine for the new wellbeing room.
Sam said:
I am delighted to have visited Eithinog, to be taken on a tour of the home and to open the newly refurbished kitchen and activities room. The residents were involved in all aspects of planning for the new, accessible kitchen, demonstrating how residents play a full part in what goes on here.
A special long service award was also presented by Darren to Sarah Simpson who has been a support worker at Eithinog for 20 years.
Darren said:
It was a pleasure to visit Eithinog to present these awards to acknowledge the commitment and hard work which the staff here have shown throughout the pandemic. I was pleased to hear from the residents who were so happy that staff members were being recognised in this way.
Sarah said:
I’m so proud to work at Eithinog, it’s a great place to work and we have a fantastic team. Working here is fun and rewarding and I would encourage anyone who is thinking about entering the social care workforce to think about joining our team.
Nia Golding, Operations Manager for Leonard Cheshire in Wales, said:
It’s been a privilege to celebrate the hard work of our staff in supporting residents throughout the pandemic. We are recruiting for a wide of roles across our services in Wales. Anyone who wants to help us make a difference should go to Care to Change Lives to find out more.
Aelodau o'r Senedd yn ymweld â Chartref Gofal Eithinog
Fe wnaeth Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd a Sam Rowlands AS Gogledd Cymru ymweld â Chartref Gofal Eithinog Leonard Cheshire ym Mae Colwyn ddydd Gwener i gydnabod ymroddiad a gwaith caled staff gydol y pandemig Covid-19.
Cyflwynodd Darren wobrau i: Caren Parry – Aelod eithriadol o'r Tîm; Julie Hanson – Aelod eithriadol o'r Tîm Gofal, Alysha Miller – Aelod eithriadol o'r Tîm Clinigol, a John Finch ac Eric Thomas – Aelodau eithriadol o'r Tîm Atodol.
Hefyd, cyflwynodd Sam Rowlands AS hamper i staff a pheiriant coffi i'r ystafell les newydd.
Meddai Sam:
Rwy'n falch iawn fy mod wedi ymweld ag Eithinog, i gael taith o amgylch y cartref ac agor y gegin a'r ystafell weithgareddau ar eu newydd wedd. Roedd y trigolion yn rhan o bob agwedd ar gynllunio'r gegin newydd, hygyrch, sy'n dangos sut maen nhw'n rhan lawn o'r hyn sy'n digwydd yno.
Hefyd, cyflwynodd Darren wobr gwasanaeth hir arbennig i Sarah Simpson sydd wedi bod yn weithiwr cymorth yn Eithinog ers 20 mlynedd.
Meddai Darren:
Roedd yn bleser ymweld ag Eithinog i gyflwyno'r gwobrau hyn i gydnabod ymrwymiad a gwaith caled aelodau'r staff gydol y pandemig. Roeddwn yn falch o glywed pa mor hapus oedd y preswylwyr bod staff yn cael eu cydnabod fel hyn.
Dywedodd Sarah:
Dw i mor falch o weithio yn Eithinog, mae'n lle gwych i weithio ac mae gennym dîm ardderchog. Mae gweithio yma yn hwyl ac yn werth chweil a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried ymuno â'r gweithlu gofal cymdeithasol i feddwl am ymuno â'n tîm.
Meddai Nia Golding, Rheolwr Gweithrediadau Leonard Cheshire yng Nghymru:
Bu'n fraint dathlu gwaith caled ein staff wrth gefnogi trigolion gydol y pandemig. Rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth eang o rolau ar draws ein gwasanaethau yma yng Nghymru. Dylai unrhyw un sydd am ein helpu i wneud gwahaniaeth fynd i Care to Change Lives i wybod mwy.