Sam Rowlands MS for North Wales said he was delighted to see the number of high-profile stars including TV presenter, Richard Madeley and legendary footballer, David Ginola, willing to take on the trials at Gwrych Castle, in Abergele.
ITV announced in August that the popular TV show would once again be coming from this historic North Wales Tourist attraction. The series is usually filmed in the Australian jungle, but was moved to North Wales because of Covid restrictions.
This week they revealed the names of the stars taking part and Mr Rowlands, a Trustee at Gwyrch Castle said:
I am absolutely delighted to be welcoming Ant and Dec, along with the celebrities, back to the area.
It is fantastic to see the show return to Gwrych Castle following the success of the series last year and what a line-up. From legendary footballer David Ginola and Olympic gold medallist Matty Lee to popular dance judge, Dame Arlene Phillips, and popular TV presenter Richard Madeley. A very good mix of characters.
I am always amazed at the number of high-profile celebrities willing to sign up for the challenges and once again the producers have not let us down.
The series was extremely popular when it was filmed here in 2020, despite the country being in a national lockdown. It also helped to give the public a great lift during very dark times.
I am also pleased for the town of Abergele, who I am sure will make Ant and Dec, along with the celebrities and the crew, very welcome.
It certainly has helped to promote the castle and surrounding areas this summer and put North Wales firmly on the tourist map.
Sam Rowlands AS yn rhannu ei gyffro wrth i ITV gyhoeddi enwau’r sêr a fydd yn cymryd rhan yn ‘I’m a Celebrity Get Me Out of Here’ eleni.
Dywedodd Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, ei fod ar ben ei ddigon yn gweld cynifer o sêr blaenllaw, gan gynnwys y cyflwynydd teledu Richard Madeley a’r pêl-droediwr enwog, David Ginola, yn fodlon mentro i’r treialon yng Nghastell Gwrych, yn Abergele.
Cyhoeddodd ITV ym mis Awst y byddai’r sioe deledu boblogaidd yn dod o’r atyniad twristiaid hanesyddol yn y Gogledd unwaith eto. Fel arfer, mae’r gyfres yn cael ei ffilmio yn y jyngl yn Awstralia, ond fe’i symudwyd i’r Gogledd yn sgil cyfyngiadau Covid.
Yr wythnos hon datgelwyd enwau’r sêr sy’n cymryd rhan a dywedodd Mr Rowlands, Ymddiriedolwr yng Nghastell Gwrych:
Dwi wrth fy modd o gael croesawu Ant a Dec, ynghyd â sêr eraill yn ôl i’r ardal.
Mae’n wych gweld y sioe yn dychwelyd i Gastell Gwrych yn dilyn llwyddiant y gyfres y llynedd a son am sêr eleni. O’r pêl-droediwr byd enwog David Ginola a’r enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd Matty Lee i’r beirniad dawns poblogaidd, y Fonesig Arlene Phillips, a’r cyflwynydd teledu poblogaidd Richard Madeley. Cymysgedd wych o gymeriadau.
Dwi wastad yn synnu faint o sêr amlwg sy’n barod i fentro i gyflawni’r heriau ac unwaith eto dyw’r cynhyrchwyr heb ein siomi.
Roedd y gyfres yn boblogaidd dros ben pan gafodd ei ffilmio yma yn 2020, er bod y wlad yng nghanol clo cenedlaethol. Helpodd hefyd i roi hwb i’r cyhoedd mewn dyddiau tywyll iawn.
Dwi hefyd yn falch dros dref Abergele, a dwi’n siŵr y bydd Ant a Dec, a’r sêr a’r criw, yn cael croeso cynnes iawn yn yr ardal.
Mae’n sicr wedi helpu i hyrwyddo’r castell a’r cyffiniau yn ystod yr haf ac wedi rhoi Gogledd Cymru ar y map twristaidd yn ddi-os.