Sam Rowlands MS for North Wales wants people in his region to support small businesses and shop locally in the run up to Christmas.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is backing a national initiative, which is running for the ninth year in a row, culminating in Small Business Saturday on December 4.
To promote the event the Small Business Saturday tour has been travelling across the UK calling at different towns and cities, including Colwyn Bay in North Wales earlier this month.
He said:
We are living in extremely challenging times as we continue to battle Covid and I welcome any initiatives which help to support local businesses.
I have always been a great supporter of this annual event which every year inspires more and more people to shop local and buy locally sourced food and other products from their community.
I was delighted to see the tour in North Wales earlier this month and just hope my constituents will once again support this excellent idea.
I would urge all communities to celebrate the day and support their own small businesess in the run up to Christmas and beyond.
Small Business Saturday is a grassroots, non-commercial campaign, which highlights small business success and encourages consumers to shop local and support small businesses in their communities.
Each year more and more people are supporting the initiative. Last year £1.1 billion was spent on Small Business Saturday with 15.4 million people choosing to shop local.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach eleni
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn annog pobl yn ei ranbarth i gefnogi busnesau bach a defnyddio siopau lleol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn cefnogi menter genedlaethol sy’n cael ei chynnal am y nawfed flwyddyn yn olynol ac yn arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 4 Rhagfyr.
Er mwyn hyrwyddo’r digwyddiad, mae taith Dydd Sadwrn y Busnesau Bach wedi bod yn teithio ledled y DU gan ymweld â threfi a dinasoedd gwahanol, gan gynnwys Bae Colwyn yn y Gogledd yn gynharach yn y mis.
Meddai:
Rydym yn byw ar adeg hynod heriol wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn Covid, ac rwy’n croesawu unrhyw fenter sy’n helpu i gefnogi busnesau lleol.
Rwyf wedi cefnogi’r digwyddiad blynyddol hwn ers y dechrau gan ei fod yn ysbrydoli mwy o bobl i siopa yn lleol a phrynu bwyd a nwyddau lleol eraill yn eu cymuned.
Roeddwn wrth fy modd yn gweld y daith yn dod i’r Gogledd yn gynharach yn y mis, ac rwy’n mawr obeithio y bydd fy etholwyr yn cefnogi’r syniad ardderchog hwn unwaith eto.
Rwy’n annog pob cymuned i ddathlu’r diwrnod a chefnogi eu busnesau bach yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig ac ar ôl hynny.
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch heb fod yn fasnachol ar lawr gwlad sy’n amlygu llwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i siopa yn lleol a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
Mae mwy o bobl yn cefnogi’r fenter bob blwyddyn. Gwariwyd £1.1 biliwn yn ystod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y llynedd, wrth i 15.4 miliwn o bobl ddewis siopa yn lleol.