Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed initial funding to repair a road which has been closed following Storm Christoph earlier this year.
Mr Rowlands recently visited the landslip on the B5605, Newbridge Road between Newbridge and Cefn Mawr, where Storm Christoph had caused excessive flooding more than 10 months ago.
He said:
I am obviously delighted to see funding of £175,000 has been confirmed from Welsh Government to progress the work as it is a vital link road which needs repairing.
Local residents have had to put with diversions for long enough and it is about time the project got underway.
The money will help cover preliminary assessment and design costs which are essential before any work can be carried out. However, it is a long way short of what is needed.
After my visit last week I said it was unacceptable that such a critical piece of local infrastructure was being left to a council to address.
The repairs, which are expected to cost in the region of £1 million, should not be the responsibility of Wrexham County Borough Council and I would urge Welsh Government to ensure this money is made available.
Sam Rowlands AS yn annog Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i weddill yr arian i atgyweirio ffordd gyswllt hanfodol rhwng Newbridge a Chefn Mawr
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru wedi croesawu cyllid cychwynnol i drwsio ffordd sydd ar gau yn sgil Storm Christoph yn gynharach eleni.
Yn ddiweddar, aeth Mr Rowlands draw i safle'r tirlithriad ar ffordd y B5605, Ffordd Newbridge rhwng Newbridge a Chefn Mawr, a ddioddefodd lifogydd difrifol adeg Storm Christoph dros ddeng mis yn ôl.
Dywedodd:
Rwy'n falch iawn o weld cyllid o £175,000 wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith gan ei fod yn ffordd gyswllt hanfodol sydd angen ei thrwsio.
Mae trigolion lleol wedi gorfod dargyfeirio eu siwrnai am lawer gormod o amser, ac mae'n hen bryd i'r prosiect ddechrau.
Bydd yr arian yn helpu i dalu am gostau asesu a dylunio rhagarweiniol sy'n hanfodol cyn y gellir gwneud unrhyw waith. Fodd bynnag, mae'n bell o'r hyn sydd ei angen.
Ar ôl fy ymweliad yr wythnos diwethaf dywedais ei bod hi'n annerbyniol bod darn mor hanfodol o seilwaith lleol wedi'i adael yn nwylo'r cyngor.
Ni ddylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod yn gyfrifol am y gwaith trwsio,a fydd yn costio tua £1 miliwn, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr arian hwn ar gael.