Sam Rowlands MS for North Wales is delighted two local projects have received grants from a community fund.
The Hafren Dyfrdwy Community Fund, which was set up by Severn Trent Water, is supporting four projects in Wales with two in the North.
Mr Rowlands said:
I am delighted to see almost £20,000 has been allocated to two schemes in my region with the Wrexham Warehouse Project receiving a grant for new community facilities and Agri-cation CIC to help the community ‘Grow Together’.
Both are very worthwhile and excellent schemes and it is great to see North Wales receiving two of the very first grants awarded.
The Hafren Dyfrdwy Community Fund was launched last September and applications for the next round of funding will be in March 2022 and I would encourage any non-profit organisations running community projects in North Wales to apply.
The Wrexham Warehouse Project is a charity based in Wrexham town centre, which offers a variety of training courses and support for young people alongside running projects for the homeless, people with disabilities and many other community groups.
With a grant of £10,000 they will be able to install kitchen facilities for those they support day to day as well as museum visitors and other members of the community.
Agri-cation CIC give children from disadvantaged backgrounds and disabled children the opportunity to visit their family farm and experience outdoor learning, including wildlife and habitat, how to tackle climate change and growing your own food.
A grant of £9,408 for their Grow Together project will help many new and different groups of the community regain confidence and improve their mental health, social skills and wellbeing.
Sam Rowlands AS yn croesawu cyllid ar gyfer dau gynllun cymunedol yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru wrth ei fodd bod dau brosiect lleol wedi derbyn grantiau gan gronfa gymunedol.
Mae Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy, a sefydlwyd gan Severn Trent Water, yn cefnogi pedwar prosiect yng Nghymru gyda dau ohonynt yn y Gogledd.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o weld bod bron i £20,000 wedi'i ddyrannu i ddau gynllun yn fy rhanbarth gyda Phrosiect Warws Wrecsam yn derbyn grant ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd a Chwmni Buddiannau Cymunedol Agri-cation i helpu'r gymuned i dyfu gyda'i gilydd.
Mae'r ddau yn gynlluniau rhagorol gwerth chweil ac mae'n wych gweld y Gogledd yn derbyn dau o'r grantiau cyntaf a ddyfarnwyd.
Lansiwyd Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy fis Medi diwethaf a bydd modd ymgeisio am y rownd nesaf o gyllid ym mis Mawrth 2022. Byddwn yn annog unrhyw sefydliadau dielw sy'n rhedeg prosiectau cymunedol yn y Gogledd i wneud cais.
Mae Prosiect Warws Wrecsam yn elusen yng nghanol tref Wrecsam, sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a chymorth i bobl ifanc ynghyd â rhedeg prosiectau ar gyfer pobl ddigartref, pobl ag anableddau a llawer o grwpiau cymunedol eraill.
Gyda grant o £10,000 byddant yn gallu gosod cyfleusterau cegin ar gyfer y rhai y maent yn eu cynorthwyo o ddydd i ddydd yn ogystal ag ymwelwyr â'r amgueddfa ac aelodau eraill o'r gymuned.
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Agri-cation yn rhoi cyfle i blant o gefndiroedd difreintiedig a phlant anabl ymweld â'u fferm deuluol a chael dysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys dysgu am fywyd gwyllt a chynefinoedd, sut i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thyfu eich bwyd eich hun.
Bydd grant o £9,408 ar gyfer eu prosiect Grow Together yn helpu llawer o grwpiau newydd a gwahanol o'r gymuned i fagu hyder o'r newydd a gwella eu hiechyd meddwl, eu sgiliau cymdeithasol a'u lles.