Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed a cash boost to help farmers and their families in his region.
He said:
I am delighted to see Tir Dewi, receiving £305,550 from the National Community Lottery Fund to help them develop their support for farmers in crisis in Conwy, Gwynedd and Anglesey.
The fund supports grassroots projects right up to developing long term plans and there is no doubt it is helping to make a difference in our communities during these challenging times.
Tir Dewi is an excellent service and I am pleased to see it receive much needed financial backing.
The organisation was originally set up in 2015 offering a free helpline, listening and sign-posting service for farmers in West Wales but is now available in Conwy, Gwynedd and Anglesey.
Over the next five years, the funding will help to develop its current provision in providing support for farmers in crisis in the North Wales region.
The National Lottery Community Fund is the largest funder of community activity in Wales and its aim is to enable people and communities to thrive.
Its funding spans from support for grassroots projects right up to long-term five-year funding to tackle big social issues from rural poverty to homelessness.
Over the last year it has awarded money to 108 projects in North Wales, from as little as £900 to Cynllun Cyfeirio Gwynedd Referral Scheme to as much as £485,861 to Association of Voluntary Organisations in Wrexham.
Sam Rowlands AS yn croesawu cyllid ar gyfer prosiect cymunedol i helpu ffermwyr yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi croesawu hwb ariannol i helpu ffermwyr a'u teuluoedd yn y rhanbarth.
Meddai:
Rwyf wrth fy modd yn gweld Tir Dewi yn derbyn £305,550 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu'r gwasanaeth i ddatblygu ei gymorth i ffermwyr sy'n wynebu argyfwng yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae'r gronfa yn cefnogi prosiectau ar lawr gwlad, gan gynnwys cymorth i ddatblygu cynlluniau hirdymor, ac nid oes amheuaeth ei bod yn helpu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae Tir Dewi yn wasanaeth rhagorol, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi derbyn cymorth ariannol hollbwysig.
Sefydlwyd y sefydliad yn 2015 i gynnig gwasanaeth llinell gymorth, gwrando a chyfeirio di-dâl ar gyfer ffermwyr yng ngorllewin Cymru, ond erbyn hyn mae'r gwasanaeth ar gael yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yr arian yn helpu'r gwasanaeth i ddatblygu ei ddarpariaeth bresennol sy'n rhoi cymorth i ffermwyr mewn argyfwng yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn darparu mwy o gyllid nag unrhyw gorff arall ar gyfer gweithgarwch cymunedol yng Nghymru, a'i nod yw galluogi pobl a chymunedau i ffynnu.
Mae'r cyllid yn amrywio o gymorth ar gyfer prosiectau ar lawr gwlad, i gyllid pum mlynedd hirdymor i fynd i'r afael â materion cymdeithasol pwysig fel tlodi gwledig a digartrefedd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gronfa wedi dyfarnu arian i 108 o brosiectau yn y Gogledd, yn amrywio o gyn lleied â £900 ar gyfer Cynllun Cyfeirio Gwynedd i gymaint â £485,861 ar gyfer Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.