Sam Rowlands MS for North Wales has praised volunteers for helping to support a council’s plans to improve its biodiversity.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, has congratulated local people in Ruthin and Denbigh, for rolling up their sleeves and bringing blooms of colour to the area.
He said:
I am delighted to see so many volunteers stepping up to help prepare for the new season of the council’s Wildflower Meadows project.
Local authorities have a responsibility to put a plan in place to enhance its biodiversity and it is great to see communities getting involved.
DCC has nearly 60 areas including highway verges, footpath edges, cycle ways and amenity grasslands, which are being managed to create wildflower meadows. As well as protecting wildflowers the meadows are also supporting the welfare of native insects to the Denbighshire area.
It is absolutely vital projects like these continue to help preserve native flowers and insects.
Following the Council’s declaration of a climate and ecological emergency in 2019, this project is part of an ongoing commitment to enhancing biodiversity across the county, Ruthin’s Friend of the Earth volunteer group helped plant up thousands of wildflower plants on a large road verge at Glasdir. Cutting on the road verge had previously been changed to encourage wildflowers but it was decided an extra boost of colour would benefit the site.
To find out more about the wildflower meadows across Denbighshire visit the link below
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i fioamrywiaeth
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwirfoddolwyr am helpu i gefnogi cynlluniau cyngor i wella ei fioamrywiaeth.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, wedi llongyfarch pobl leol Rhuthun a Dinbych am dorchi llewys i ddod â thipyn o liw i’r ardal.
Meddai:
Rwyf wrth fy modd yn gweld cymaint o wirfoddolwyr yn cynnig helpu i baratoi ar gyfer tymor newydd prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y cyngor.
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i roi cynllun ar waith i wella ei fioamrywiaeth a braf yw gweld cymunedau yn cymryd rhan.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych bron i 60 ardal, gan gynnwys ymylon priffyrdd, ymylon llwybrau, llwybrau beicio a glastiroedd amwynderau, sy’n cael rheoli i greu dolydd blodau gwyllt. Yn ogystal â diogelu bywyd gwyll, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfed brodorol yn ardal Sir Ddinbych.
Mae’n gwbl hanfodol bod prosiectau fel y rhain yn parhau i helpu i warchod blodau a phryfed brodorol.
Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ledled y sir, a bu grŵp gwirfoddolwyr Cyfeillion y Ddaear Rhuthun yn helpu i blannu miloedd o blanhigion blodau gwyllt ar ymyl y ffordd yng Nglasdir. Roedd y gwaith o dorri gwair ar ymyl y ffyrdd wedi’i newid yn barod i annog blodau gwyllt, ond penderfynwyd y byddai hwb ychwanegol o liw o fudd i’r safle.
Am ragor o wybodaeth am y dolydd bywyd gwyllt ledled Sir Ddinbych, ewch i: