Sam Rowlands MS for North Wales is thanking local shops for playing a vital role in supporting the economy.
Mr Rowlands was commenting following the release of the Welsh Local Shop Report for 2022.
He said:
I have long been a supporter of buying local and I always encourage everyone to use local stores whenever possible, especially in rural areas.
These small shops in North Wales play a key role in the lives of the community, not only for the products they offer but also by acting as social hubs helping to combat loneliness.
Convenience stores make a significant contribution to our communities and I am happy to support this extremely important sector.
I would also like to take this opportunity to thank all the local shops who play a valuable role in supporting the economy and local communities and have continued to do so throughout the pandemic.
There are 2,795 convenience stores in Wales, providing essential groceries and services to their customers.
Wales has more shops per head than any other part of mainland UK, employing over 25,000 people with local, flexible jobs, and making a positive difference in their communities.
The Welsh Local Shop Report highlights the importance of these stores and acts as a snapshot of the work that retailers and colleagues have done throughout the last year.
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi siopau cyfleustra yn ei ranbarth.
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn diolch i siopau lleol am eu rôl hanfodol yn cefnogi’r economi lleol.
Daeth sylwadau Mr Rowlands yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Siopa Lleol Cymru ar gyfer 2022.
Meddai:
Rydw i wedi cefnogi prynu’n lleol ers cyn cof a wastad yn annog pawb i ddefnyddio eu siopau lleol pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r siopau bach hyn yn y Gogledd yn gwneud cyfraniad pwysig at fywydau’r gymuned, nid yn unig oherwydd y cynhyrchion maen nhw’n eu cynnig ond hefyd drwy weithredu fel hybiau cymdeithasol sy’n helpu i drechu unigedd.
Mae siopau cyfleustra yn gwneud cyfraniad pwysig yn ein cymunedau ac rwy’n falch o gefnogi’r sector hynod bwysig hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma hefyd i ddiolch i’r holl siopau lleol sy’n gwneud gwaith mor werthfawr yn cefnogi’r economi a chymunedau lleol ac sydd wedi parhau i wneud hynny drwy’r pandemig.
Mae 2,795 o siopau cyfleustra yng Nghymru yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i’w cwsmeriaid.
Mae gan Gymru fwy o siopau'r pen nag unrhyw ran arall o dir mawr y DU, gan gyflogi dros 25,000 o bobl gyda swyddi lleol, hyblyg, gan wneud gwahaniaeth positif yn eu cymunedau.
Mae Adroddiad Siopa Lleol Cymru yn tynnu sylw ar bwysigrwydd y siopau hyn ac yn rhoi cip i ni ar y gwaith mae manwerthwyr a chydweithwyr wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.