Sam Rowlands MS for North Wales is backing an appeal by the National Trust for funds to repair the damage at Bodnant Gardens in Conwy.
He said:
I recently visited this world famous and popular tourist attraction to talk to National Trust and gardening staff and see how work is progressing after Storm Arwen wreaked havoc all over North Wales in November 2021.
The storm caused a lot of serious damage, including the cancellation of the live TV broadcasts of the show, ‘I’m A Celebrity – Get Me Out of Here’ from Gwrych Castle in Abergele.
Fortunately much of Bodnant Garden was untouched by the storm but several trees were uprooted including a Grand Sequoia, which has now become popular attraction for people taking selfies.
I was pleased to see the clear-up process was progressing well and staff are working hard to make sure tourists will continue to visit Wales’ most popular National Trust destination.
Over 50 trees were uprooted at Bodnant Garden, during the storm including a 51m ‘Champion’ coast redwood - the largest of its kind in Wales - and many hybrid rhododendrons that are unique to the property.
The gardens are open to the public but the worst affected area of Furnace Wood still remains closed to visitors.
The National Trust is asking supporters to donate what they can to its Woodlands fundraising appeal to help with restoration now and in the future: www.nationaltrust.org.uk/woodlands-appeal.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o gefnogaeth i helpu gardd fyd-enwog a gafodd ei difrodi gan storm Arwen fis Tachwedd y llynedd.
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi apêl gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am arian i atgyweirio'r difrod yng Ngerddi Bodnant yng Nghonwy.
Dywedodd:
Fe wnes i ymweld â'r atyniad twristaidd byd-enwog a phoblogaidd hwn yn ddiweddar i siarad â staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r garddwyr yno a gweld sut mae gwaith yn dod yn ei flaen ar ôl i Storm Arwen greu llanast ledled y Gogledd ym mis Tachwedd 2021.
Achosodd y storm lawer o ddifrod difrifol, gan gynnwys canslo darllediadau byw rhaglen deledu 'I'm A Celebrity – Get Me Out of Here' o Gastell Gwrych yn Abergele.
Yn ffodus, doedd llawer o Erddi Bodnant ddim gwaeth wedi'r storm ond cafodd nifer o goed eu chwythu i lawr gan gynnwys cochwydden fawr sydd bellach wedi dod yn atyniad poblogaidd i bobl sy'n cymryd hunluniau.
Roeddwn yn falch o weld bod y gwaith clirio'n mynd rhagddo'n dda ac mae staff yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd twristiaid yn parhau i ymweld ag eiddo mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Cafodd dros 50 o goed eu cwympo gan y gwynt yng Ngerddi Bodnant yn ystod y storm gan gynnwys cochwydden arfor 'Champion' 51m o uchder - y mwyaf o'i bath yng Nghymru - a llawer o rododendronau hybrid sy'n unigryw i'r eiddo.
Mae'r gerddi ar agor i'r cyhoedd ond mae'r ardal o Goed Ffwrnais lle gwelwyd y difrod mwyaf ar gau i ymwelwyr o hyd.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn i gefnogwyr gyfrannu'r hyn y gallant i'w apêl codi arian Coetiroedd i helpu gyda gwaith adfer nawr ac yn y dyfodol: www.nationaltrust.org.uk/woodlands-appeal.