Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to have their say and help the police prioritise their neighbourhood policing activity.
The initiative, ‘North Wales Talking’, which is aimed at understanding the crime and disorder concerns of local communities across North Wales, is a key priority of North Wales Police Neighbourhood Policing Teams.
Mr Rowlands said:
I think it is a great idea to ask local people, who live and work in my Region, what issues matter to them in their communities.
I know that North Wales is one of the safest places to live, work and visit and I welcome any measures which will help to keep it that way.
It is also good to see people being given the opportunity to have their say and I urge everyone to take part in the survey.
The short survey asks people what it is like to live in their areas and what issues matter most to them in their community. There is also an opportunity to raise any concerns they may have.
Feedback via North Wales Talking will enable Neighbourhood Policing Teams, together with partner agencies to tackle the issues raised and have a voice in how Neighbourhood Policing activity is prioritised.
You can also choose to register for the North Wales Community Alert, NWP’s free community messaging system where you will then receive updates from your Neighbourhood Policing Team on the action taken to tackle the top three local community issues.
Superintendent Helen Corcoran said:
North Wales Talking will provide residents the opportunity to tell us what issues matter most to them in their local community. It could be anti-social behaviour that is worrying you, or perhaps you have information to pass on about drug dealing in your local area.
We want your feedback which we will use to help identify the top three issues in your area that our Neighbourhood Policing Teams will work on over the next few months.
To take part and be part of the conversation, visit, www.northwalestalking.co.uk or www.gogleddcymrunsiarad.co.uk for the Welsh survey.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter fawr Heddlu'r Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru yn galw ar ei etholwyr i ddweud eu dweud a helpu'r heddlu i flaenoriaethu eu gwaith plismona bro.
Menter 'Gogledd Cymru'n Siarad', sy'n ceisio deall pryderon trosedd ac anhrefn cymunedau lleol ledled y Gogledd, yw un o flaenoriaethau allweddol Timau Plismona Bro Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych gofyn i bobl leol, sy'n byw ac yn gweithio yn fy rhanbarth, pa faterion sy'n bwysig iddyn nhw yn eu cymunedau.
Rwy'n gwybod mai Gogledd Cymru yw un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o ac rwy'n croesawu unrhyw fesurau a fydd yn helpu i'w gadw felly.
Mae'n braf gweld pobl yn cael cyfle i ddweud eu dweud ac rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae'r arolwg byr yn gofyn i bobl ddweud sut brofiad yw byw yn eu hardaloedd a pha faterion sydd bwysicaf iddyn nhw yn eu cymuned. Mae cyfle hefyd i godi unrhyw bryderon posib.
Bydd adborth drwy Gogledd Cymru'n Siarad yn helpu Timau Plismona Bro, ynghyd ag asiantaethau partner i fynd i'r afael â'r materion a godwyd a chael llais yn y modd mae gweithgarwch plismona bro yn cael ei flaenoriaethu.
Hefyd, bydd cyfle i gofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru, system negeseuon cymunedol am ddim Heddlu'r Gogledd lle byddwch wedyn yn derbyn diweddariadau gan eich Tîm Plismona Bro ar y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r tair prif broblem yn lleol.
Meddai'r Uwcharolygydd Helen Corcoran:
Bydd Gogledd Cymru'n Siarad yn rhoi cyfle i drigolion ddweud beth yw'r materion pwysicaf yn eu hardal nhw. Gallai fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n eich poeni, neu efallai bod gennych wybodaeth am werthu cyffuriau yn eich ardal chi.
Rydym am gael eich adborth i'w ddefnyddio i helpu i nodi'r tair prif broblem neu fater yn eich ardal - pethau y bydd ein Timau Plismona Bro yn gweithio arnynt dros y misoedd nesaf.
I gymryd rhan a chyfrannu at y sgwrs, ewch i: www.gogleddcymrunsiarad.co.uk neu www.northwalestalking.co.uk.