Sam Rowlands MS for North Wales is calling on Welsh Government to invest more in eye care in his region.
His comments come after the setting up of a new NHS Wales University Eye Care Centre in Cardiff, which will have two new surgical theatres and in Swansea the establishment of another operating theatre dedicated to ophthalmology procedures.
Mr Rowlands said:
I am disappointed to see very little for North Wales in this latest announcement from Welsh Government.
It is all very well for the Health Minister, Eluned Morgan, to say new facilities will increase the number of patients receiving eye care treatment and cut waiting times but once again we are talking about this happening in South Wales.
In North Wales, Betsi Cadwaladr University Health Board has been able to see more patients, closer to home, by supporting additional services within the community using the skills and expertise of staff within optometry practices.
This is obviously good news because we have seen a significant increase in demand in ophthalmology services in recent years which has not been helped by the pandemic. We must continue to improve access for treatment and make sure we have an eye care service fit for the people of North Wales.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau gofal llygaid yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn gofal llygaid yn ei ranbarth.
Daw ei sylwadau ar ôl i Ganolfan newydd Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru gael ei sefydlu yng Nghaerdydd, a fydd â dwy theatr lawfeddygol newydd a sefydlu theatr lawdriniaethau arall yn Abertawe yn benodol ar gyfer triniaethau offthalmoleg.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n siomedig o weld ychydig iawn ar gyfer Gogledd Cymru yn y cyhoeddiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n ddigon hawdd i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddweud y bydd cyfleusterau newydd yn cynyddu nifer y cleifion sy'n cael triniaeth gofal llygaid ac yn lleihau amseroedd aros ond unwaith eto rydyn ni’n sôn am hyn yn digwydd yn Ne Cymru.
Yng Ngogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gallu gweld mwy o gleifion, yn agosach at eu cartrefi, drwy gefnogi gwasanaethau ychwanegol yn y gymuned gan ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd staff mewn practisau optometreg.
Mae hyn yn amlwg yn newyddion da gan ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw mewn gwasanaethau offthalmoleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond nid yw'r pandemig wedi helpu. Mae'n rhaid i ni barhau i wella mynediad at driniaeth a sicrhau bod gennym wasanaeth gofal llygaid sy'n addas i bobl Gogledd Cymru.