Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed moves to light up council buildings in yellow and blue this week.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I am delighted to see this local support for Ukraine and welcome the move by Denbighshire County Council and Denbigh Leisure who are lighting up buildings in the colours of the flag of this country invaded by Russia.
I am sure everyone has seen the harrowing scenes from Ukraine on the news and like me, can’t believe what is happening over there. My heart goes out to everyone involved in the conflict and I am happy to support anything we can do to show solidarity.
This week Denbighshire Leisure is lighting up Rhyl Pavilion theatre, 1891 restaurant and bar, the Ruthin Craft Centre, The Sky Tower in Rhyl, as well as bus stops and shelters across the coast, in Ukraine’s flag colours of yellow and blue to show solidarity.
They are joining other countries who are lighting up famous landmarks across the world following the Russian invasion.
Jamie Groves, Managing Director of Denbighshire Leisure Ltd, said:
The thoughts of the whole company are with those affected by the situation in Ukraine. We wanted to show our support to the people of Ukraine at this unprecedented time and join together with landmarks across the world to let the people of Ukraine know that they are not alone and we are standing with them.
Denbighshire County Council is working with partner organisations around supporting those impacted by the conflict in Ukraine. The Council has been meeting with the Welsh Local Government Association as part of a collective response in Wales to ensure a joined-up approach to the crisis.
Sam Rowlands AS yn cefnogi goleuo adeiladau yn Sir Ddinbych i ddangos cefnogaeth i Wcráin
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru wedi croesawu’r syniad i oleuo adeiladau’r cyngor yn las a melyn yr wythnos hon.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Rwy’n falch iawn o weld y gefnogaeth leol hon i Wcráin ac yn croesawu syniad Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych sy’n goleuo adeiladau yn lliwiau baner y wlad sydd wedi’i goresgyn gan Rwsia.
Rwy’n siŵr bod pawb wedi gweld y golygfeydd erchyll o Wcráin ar y newyddion ac fel minnau, yn methu credu beth sy’n digwydd yno. Mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sydd wedi’u dal yn y gwrthdaro ac rwy’n hapus i gefnogi unrhyw beth y gallwn ei wneud i ddangos undod.
Yr wythnos hon mae Hamdden Sir Ddinbych yn goleuo Pafiliwn y Rhyl, bwyty a bar 1891, Canolfan Grefftau Rhuthun, Tŵr yr Awyr yn y Rhyl, ynghyd ag arosfannau a llochesau bws ar hyd yr arfordir, yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin i ddangos undod.
Maent yn ymuno â gwledydd eraill sy’n goleuo tirnodau enwog ledled y byd yn dilyn goresgyniad Rwsia.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf:
Mae meddyliau’r cwmni i gyd gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y sefyllfa yn Wcráin. Roedden ni am ddangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin ar yr adeg ddigynsail hon a dod at ein gilydd gyda thirnodau ledled y byd i roi gwybod i bobl Wcráin nad ydynt ar eu pen eu hunain a’n bod yn sefyll gyda nhw.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn Wcráin. Mae’r Cyngor wedi bod yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o ymateb ar y cyd i sicrhau dull cyfunol o ymateb i’r argyfwng.