Sam Rowlands MS for North Wales has praised local authorities for offering more recycling facilities to residents.
From April 1, people living in Conwy County Borough Council and Denbighshire County Council will be able to use recycling centres in both areas.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
It is great to see both authorities working together and I am delighted this has resulted in offering more choice to residents.
It is vitally important we continue to encourage everyone to recycle and it is good to see more sites are now available for people to dispose of their waste.
The new contract will increase recycling rates, introduce more reuse activities and implement a local circular economy approach to recycling.
This new arrangement should also make it easier for those who live on the county border with their nearest centre in a different county.
As well as the two recycling centres at Mochdre and Abergele and the monthly mobile service to Lllangernyw, Llanwrst and Cerrigydrudion, Conwy County residents now have access to three recycling sites in Denbighshire at Rhyl, Ruthin and Denbigh.
Conwy Cllr Greg Robbins, Cabinet Member for the Environment and Transport said:
We were pleased to work with our colleagues at Denbighshire County Council and together produce a contract which suits both authorities.
It is a far more flexible solution and apart from offering our residents more choice this will allow us to reduce our overall cost of providing this service and enable us to support priority services.
In Denbighshire residents will be able to use two Conwy recycling and waste parks at Abergele and Mochdre.
Denbighshire Cllr Brian Jones, Lead member for Waste, Transport and Environment, said:
Working together with Conwy County Borough Council to appoint a single operator has enabled us to provide value for money for our residents, as management costs have reduced while increasing the amount of waste we recycle.
The new contract also includes more green initiatives, such as availability of free compost to site users and a new ‘Choose to Reuse’ area at each site for customers to help themselves to useful materials that other people have brought, a charity run re-use shop at the Rhyl site and more support of reuse projects within our communities.
Sam Rowlands AS yn croesawu contract ailgylchu ar y cyd rhwng dwy sir yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi canmol awdurdodau lleol am gynnig mwy o gyfleusterau ailgylchu i drigolion.
O 1 Ebrill, bydd pobl sy’n byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn gallu defnyddio canolfannau ailgylchu yn y ddwy ardal.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Mae’n braf gweld y ddau awdurdod yn cydweithio ac rwy’n falch iawn fod hyn wedi arwain at gynnig mwy o ddewis i drigolion.
Mae’n hollbwysig ein bod yn dal ati i annog pawb i ailgylchu a da yw gweld mwy o safleoedd ar gael nawr i bobl waredu eu gwastraff.
Bydd y contract newydd yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, yn cyflwyno mwy o weithgareddau ailddefnyddio ac yn rhoi dull economi gylchol leol o ailgylchu ar waith.
Dylai’r cytundeb newydd hwn wneud pethau’n haws hefyd i’r rhai sy’n byw ar ffin y ddwy sir gyda’u canolfan agosaf mewn sir arall.
Yn ogystal â’r ddwy ganolfan ailgylchu ym Mochdre ac Abergele a’r gwasanaeth symudol misol yn Llangernyw, Llanrwst a Cherrigydrudion, bydd trigolion Cyngor Conwy bellach yn gallu defnyddio tri safle ailgylchu yn Sir Ddinbych yn y Rhyl, Rhuthun a Dinbych.
Meddai’r Cynghorydd Conwy Greg Robbins, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
Roedden ni’n falch o weithio gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Sir Dinbych a llunio contract sy’n addas i’r ddau awdurdod.
Mae’n ateb llawer mwy hyblyg ac nid yn unig y bydd yn cynnig mwy o ddewis i’n trigolion, bydd yn ein galluogi i leihau costau cyffredinol darparu’r gwasanaeth hwn ac yn ein galluogi i gefnogi gwasanaethau blaenoriaeth.
Yn Sir Ddinbych bydd trigolion yn gallu defnyddio dau barc ailgylchu a gwastraff Conwy yn Abergele a Mochdre.
Meddai Brian Jones, Cynghorydd yn Sir Ddinbych a’r Aelod Arweiniol dros Wastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd:
Mae gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i benodi un gweithredwr wedi ein galluogi i sicrhau gwerth am arian i’n trigolion, gan fod costau rheoli wedi lleihau tra’n cynyddu’r gwastraff rydym yn ei ailgylchu.
Mae’r contract newydd hefyd yn cynnwys mwy o fentrau gwyrdd, fel y compost sydd ar gael am ddim i ddefnyddwyr y safle ac ardal ‘Dewis Ailddefnyddio’ newydd ar bob safle lle gall cwsmeriaid helpu eu hunain i ddeunyddiau defnyddiol y mae eraill wedi’u taflu, siop ailddefnyddio dan ofal elusen ar safle’r Rhyl a mwy o gefnogaeth i brosiectau ailddefnyddio yn ein cymunedau.