Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to help make a big difference in a child’s life.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is backing National Foster Care Fortnight and supporting Denbighshire County Council’s fostering team who are holding an information event later this month.
He said:
I am a great supporter of the campaign and anything which raises awareness of the need for more foster carers and families.
It is sad to say but there are so many children and young people who need a safe place to call home and that is why it is so important that people come forward to become foster parents.
I think it is an excellent idea to hold an event where people can find out more about fostering and how they can help to make a big difference to a child’s life.
I would urge anyone interested to attend the information and sharing event on Thursday May 26, or get in touch with the team to find out more.
Foster Wales Denbighshire will be welcoming those who want to know more about fostering children in the county with an event at Rhyl Pavilion on May 26 from 6.30pm until 8pm.
The team will be on hand to chat to those interested in becoming foster carers. There will also be local foster carers on hand to share their experiences about what it feels to offer a warm and nurturing environment to children from the county who need support.
Rhiain Morrlle, Head of Children Services, said:
The team is dedicated to working with foster families to make a big difference to the lives of children in Denbighshire.
In Denbighshire we celebrate the diversity and uniqueness of all our foster families. That’s why, if you decide to become a foster carer your own circumstances can't be compared to anyone else's. Your story is what matters most alongside the support and home you can give a child in Denbighshire.
If you are unable to make the event at Rhyl Pavilion you can also contact the team via the website [email protected] or call 08007313215.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Pythefnos Gofal Maeth Cenedlaethol 9-22 Mai
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn galw ar ei etholwyr i helpu i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn cefnogi Pythefnos Gofal Maeth Cenedlaethol ac yn cefnogi tîm maethu Cyngor Sir Ddinbych sy'n cynnal digwyddiad gwybodaeth yn ddiweddarach y mis hwn.
Meddai:
Rydw i'n cefnogi'r ymgyrch i’r carn ac unrhyw beth sy'n codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr a theuluoedd maeth.
Mae'n destun tristwch bod cymaint o blant a phobl ifanc angen lle diogel i'w alw'n gartref a dyna pam ei bod hi mor bwysig i bobl gynnig eu hunain i fod yn rhieni maeth.
Rydw i'n credu bod cynnal digwyddiad lle gall pobl ddysgu mwy am faethu a sut gallan nhw helpu i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn yn syniad gwych.
Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynd i’r digwyddiad gwybodaeth a rhannu a gynhelir ddydd Iau 26 Mai, neu i gysylltu â'r tîm i gael gwybod mwy.
Bydd Maethu Cymru Sir Ddinbych yn croesawu'r rhai sydd am wybod mwy am faethu plant yn y sir gyda digwyddiad ym Mhafiliwn y Rhyl ar 26 Mai rhwng 6.30pm ac 8pm.
Bydd y tîm wrth law i sgwrsio â'r rhai sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth. Bydd gofalwyr maeth lleol wrth law hefyd i rannu eu profiadau am y teimlad o gynnig amgylchedd cynnes a gofalgar i blant yn y sir sydd angen cymorth.
Dywedodd Rhiain Morrlle, Pennaeth Gwasanaethau Plant:
Mae'r tîm wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd maeth i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant yn Sir Ddinbych.
Yn Sir Ddinbych rydyn ni'n dathlu amrywiaeth a nodweddion unigryw pob un o'n teuluoedd maeth. Dyna pam, os byddwch chi'n penderfynu dod yn ofalwr maeth, na fydd modd cymharu eich amgylchiadau chi ag amgylchiadau unrhyw un arall. Eich stori chi yw'r hyn sydd bwysicaf ochr yn ochr â'r gefnogaeth a'r cartref y gallwch chi eu rhoi i blentyn yn Sir Ddinbych.
Os na allwch chi fod yn bresennol yn y digwyddiad ym Mhafiliwn y Rhyl gallwch gysylltu â'r tîm drwy'r wefan hefyd [email protected] neu ffonio 08007313215.